HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llynnoedd Cowlyd a Chrafnant 12 Awst


Deg ohonom yn cyfarfod ym maes parcio tu ol i Joe Brown, Capel Curig sef:- Anet,Liz, Eleri, Iona, Twm, Arfon, Gwyn Chwilog, Bert Wrecsam, Meirion o Dinas a Gwilym. Rhagolygon y tywydd yn gaddo diwrnod gwlyb a niwlog ac yn codi`n braf at ddiwedd y prynhawn ond fel y disgwylir roedd y rhagolygon yn anghywir unwaith eto!! a cawsom ddiwrnod gweddol braf a glaw at y prynhawn.

Ar ddechrau y daith roedd pawb wedi gwisgo am dywydd gwlyb ond wedi cyrraedd y llwybyr am Lyn Cowlyd cadw draw ddaru`r glaw, codwyd y niwl a cawsom fore twym a sych a mwynhau yr awel a paned ar lan Llyn Cowlyd.

Cerdded heibio`r argau a dilyn y bibell sy`n cludo dwr i`r Pwerdu yn Nolgarrog, ymuno gyda`r ffordd am Ben Cyfarwydd lle cawsom olygfa hardd o rhan uchaf o Ddyffryn Conwy yn cynnwys Mynydd Hiraethog, Llanrwst, Llanddoget, Nebo, Capel Garmon, Llyn Geirionydd, Llanrhychwyn, Trefriw ac yn y pellter golygfeydd o Moel Siabod, Bwlch y Crimea, Migneint, Arenig Fawr ac Arenig Fach. I`r gogledd roedd golygfa hardd o Landudno a`r cyffiniau i`w gweld.

Crwydro i lawr y ffordd a throi cyn Trefriw i ymuno a ffordd Crafnant a cherdded i`r caffi ar lan y llyn lle cawsom baned heb ei ail ac erbyn hyn yn ei wir haeddu!! Glaw man wedyn yn ein dilyn heibio godre Crimpiau ac yn ol i Gapel Curig.

Adroddiad gan Gwilym.

Lluniau gan Gwilym ar Fflickr

  1. Gyferbyn a`r argau Llyn Cowlyd
  2. Golygfa o Ben Cyfarwydd
  3. Olwyn ddwr yn Gelli Newydd, Trefriw
  4. Ar Lan Llyn Crafnant