Rhinog Fawr 13 Rhagfyr
Doedd cael dydd Sadwrn bendigedig ar y Rhobell ddim digon i rhai o'r aelodau aeth ar y daith hon drannoeth!
Dan arweiniad John Williams, aeth criw cymysg o aelodau'r Clwb Mynydda a Chlwb Dringo Porthmadog am dro i fyny Rhinog Fawr ar fore bendigedig o aeaf.
Wrth deithio yn y ceir drwy Traws cyn troi tua'r gorllewin am droed y Rhinogydd, gwelwyd bod pob un copa â lliain bwrdd o niwl eithaf trwchus. Yn ffodus iawn, fel yr oeddan ni'n codi'n uwch, roedd y niwl yn clirio, er bod y barrug yn drwm dan draed a'r creigiau'n llithrig. O'r copa cafwyd golygfeydd hyfryd o Ardudwy, Pen Llyn ac Enlli i'r gorllewin, mynyddoedd Eryri i'r gogledd a Rhinog Fach, y Llethr a chrib y Rhinogydd yn dirwyn tua'r de, a'r amrywiol lynnoedd fel Llyn Hywel a Llyn Irddyn yn llachar yn yr haul. I lawr at Loywlyn o'r copa cyn croesi tir eitha gwlyb yn ôl i lwybr Bwlch Tyddiad uwchben Cwm Bychan, ac yna trwy'r bwlch tua'r dwyrain yn ôl at y ceir.
Adroddiad gan Haf Meredydd
Lluniau gan Haf Meredydd ar Fflickr