HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llwybrau'r Chwarelwyr 14 Ionawr


MAN CYFARFOD CABAN BRYNREFAIL.

ARWEINYDD: ALUN ROBERTS

Daeth 15 ar y daith: Sian, Dei, Cheryl, Twm, Llew, Dyfir, Anet, John Port, John Parry, Carys, Arfon, Salmon, Dafydd Prytherch a Bethan o`r Alban a`r arweinydd.
Roedd hwn yn gyfri da o ystyried fod rai o`r ffyddloniaid yn sgio yn Awstria.
Da oedd gweld Dafydd a Bethan hefo ni, daethant i lawr o`r Alban yn unswydd i gadw llygad ar yr arweinydd!

Tywydd yn gymylog ac yn oer, eira ar y mynyddoedd.

Cerdded o`r Caban i Glwt y Bont yna i fyny'r llwybr i Ddinorwig.
Golygfeydd eitha da o bentref Deiniolen a phentref Llanberis. Cafwyd cyfle i weld Morwyn yr Wyddfa o Ddinorwig. Da yw dweud i un gallu ei gweld er iddo fethu gwneud ers hanner canrif!

Cerdded ar hyd y ffordd at gofeb y chwarelwyr cyn disgyn lawr i barc Padarn a cherdded y llwybr i Fachwen.

Cerdded y ffordd i Benllyn a chyrraedd y Caban fel roedd hi`n dechrau bwrw glaw. Paned, cawl a chacen yn y Caban.

Llun gan Anet