"O Fan i Fan" 15-17 Mai

“O FAN I FAN”
      Penwsnos 15 – 17 Mai 2009
Wele’n cychwyn ddau ddeg naw
        O gerddwyr dewr mewn gwynt a glaw!
        Wele Rhys yn daer ei fron 
        Am heulwen ar yr hirdaith hon ...
        Mynd y maent i roi eu troed
        Ar drec na wnaeth y Clwb erioed;
        Antur enbyd yw eu rhan,
      Ond Duw a’u deil o Fan i Fan.
Llen o niwl a glaw drwy’r dydd,
        Dibynnu’n llwyr ar gwmpawd sydd:
        Codai corwynt mawr o’r De
        A godai’r cerddwyr fyny i’r ne!
        Gwlychu’n ddiflas ar eu hynt,
        A brwydro’r grib ym mraich y gwynt;
        Dal i fynd yn bell, bell, bell
        Rhwng byw a bod, er gwaeth er gwell.
Wele’n cyrraedd ddau ddeg saith
        O gerddwyr dewr at ben y daith;
        Lleisiau llon o’r grib a geir
        ’Rôl oes o daith yn gweiddi “Ceir!”
        Er gwaetha’r difrod wnaed i rai,
        Roedd mawr foddhad ar ganol Mai
        O goncro’r Bannau bob yn un,
        A phawb yn frenin arno’i hun.
      
AMSERLEN
7.15	Hostel Llanddeusant
        Waun Lefrith
        Picws Du / Fan Sir Gâr
        Fan Foel
        Fan Brycheiniog
        Fan Hir
        10.30	Tafarn y Garreg
        Fan Gyhirych
        Fan Fraith
        15.30	Bwlch y Duwynt
        Fan Nedd
        Fan Llia
        Fan Dringarth
        Fan Frynych
        18.45	Hostel Llwyn y Celyn
10.00	Gadael Llwyn y Celyn
        Craig Cerrig Gleision
        Fan Fawr
        12.30	Storey Arms
        Corn Du
        Pen y Fan
        Cribyn
        14.30	Bwlch y Fan
        Fan y Big
        Waun Rudd
        Fan Las
        Fan Ddu
        17.30	Blaen Collwn (maes parcio)
Lluniau gan Nia Williams, Pens Jones, Gaenor Roberts a Sioned Lewis ar Fflickr
1 Wele'n cychwyn
        2 Wele Rhys
        3 Llyn y Fan Fach
        4 Bannau Sir Gar
        5 Fan Foel gythreulig
        6 Tafarn y Garreg
        7 Fan Gyhirych
        8 Ysbaid Braf
        9 Bwlch y Duwynt
        10 Fan Nedd
        11 Maen Llia
        12 Fan LLia-Dringarth
        13 at Corn Du
        14 Llwyn y Celyn
        15 Llwytho Carbs
        16 Craig Cerrig Gleisiad
        17 am Fan Fawr
        18 Fan Fawr
        19 Pen y Fan
        20 Pen y Fan
        21 Bwlch y Fan
        22 Fan y Big
        23 Nôl at Fan y Big a Cribyn
        24 Cwm Oergwm
        25 Waun Rudd
        26 Fan Las
        27 am Fan Ddu
        28 Blaen Collwn Ni-No
        29 O diar (Twll yn y Fan? - sori. Gol.!)
        30 Mynyddwyr Deheuol
        31 Mynyddwyr Gogleddol
        
      
        
        
      
      
