HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pen Llithrig y Wrach / Pen yr Helgi Du 19 Medi


16 ohonom yn cyfarfod yn y maes parcio tu ôl i Joe Brown am daith tua 10 milltir yn cynnwys copaon Pen Llithrig y Wrach a Phen yr Helgi Du. Rhagolygon y tywydd yn ffafriol, felly pawb yn edrych ymlaen am ddiwrnod sych ar lwybrau sydd yn ddiweddar wedi bod yn eithriadol o wlyb – yn ôl yr arweinydd!

Cawsom groesawu pedwar aelod newydd i'n plith wedi iddynt ymaelodi â'r Clwb ar Faes Eisteddfod y Bala.

Wrth gerdded am Lyn Cowlyd sylwi bod Pen Llithrig y Wrach mewn niwl. Dringo'n serth i'r copa a chael paned heb fwynhau y golygfeydd. Gostwng i Fwlch y Tri Marchog ac erbyn hyn cododd y niwl a chawsom weld Llyn Eigiau a'r bwlch yn yr argae a achosodd y drychineb pan foddwyd rhan o bentref Dolgarrog yn 1925. Erbyn cyrraedd Pen yr Helgi Du roedd y copa yn glir o niwl a chawsom olygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri. Gostwng i Fwlch Eryl Farchog lle cawsom weld dringwyr ar Graig yr Ysfa a hefyd gweld hofrenydd y Llu Awyr yn achub cerddwr oddi ar y llwybyr o dan y bwlch. Gostwng heibio Ffynnon Llugwy i'r A5, croesi Afon Llugwy a dychwelyd i Gapel Currig ar hyd y ffordd Rufeinig.

Y Criw: Rhys Dafis, Ann Bysouth, Llew ap Gwent, Rhian Owen, Rhian Griffiths, Gareth Tilsley, Twm, Meri Lloyd, Anet, Ifan Jones, Gareth Huws, Morfudd, Beti Rhys, Janet Buckley, Huw Myrddin a Gwilym.

Adroddiad a lluniau (4) gan Gwilym Jackson.

Lluniau gan Gwilym Jackson(4) a Rhys Dafis ar Fflickr