HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol y Grwyne Fawr 19 Medi


Un ar ddeg wedi troi fyny, rhai wedi cael antur cyn cyrraedd.

Wyth wedi codi lan drwy y coed i ben Bâl Mawr cyn cael seibiant a phaned. Croesawu tri stragler oedd wedi cael diffyg darllen map a'u cymryd o dan ein adenydd cyn mynd 'mlaen ar hyd y grîb a chinio ger Twyn Talycefn.Ymlaen tuag at Rhos Dirion cyn troi i'r chwyth a dringo i fyny Waun Hir. Tywydd yn dechrau troi a'r cymylau yn dod lawr ond y glaw yn peidio. Paned fach arall ar ben Pen y Gadair Fawr cyn dechrau ein ffordd lawr at y goedwig ac yn ôl i'r ceir. Croeso i aelod newydd Robert, a chroeso hefyd i Sioned wedi dôd yr holl ffordd o Lerpwl i gerdded gyda n'r hwntws!

Diolch i bawb am ddiwrnod braf.

Adroddiad gan Guto Evans

Lluniau gan Guto Evans ar Fflickr

  1. 4 wrth y gât
  2. Bywyd gwyllt
  3. Bywyd gwyllt yn dod allan or goedwig
  4. Copa Pen y Gadair Fawr
  5. Copa Waun Fach
  6. Grwyne Fawr coeden
  7. Twyn Talycefn
  8. Y Tri Amigo