Arfordir Môn 20 Mai
Wyth ohonom ddaliodd y bws o Borth Trecastell cyn belled â Phontrydybont – Gwen Aa, Meira, Haf, John P, John W, Gwilym, Gwyn Chwilog ac Anet. Cadwodd y glaw draw am ran gynta’r daith oedd yn dilyn yr aber llanw sy’n gwahanu Ynys Môn ac Ynys Cybi dros nifer o gobiau bychain. Roedd tipyn o ddŵr tros y sarn gerrig ger Penrhyn Hwlad a dim ond y rhai ag esgidiau cryf lwyddodd i groesi yn droetsych heb amgylchynu’r aber.
Ymlaen wedyn heibio maes awyr swnllyd Y Fali ac ar hyd Traeth Cymyran. Erbyn hyn roedd yn bwrw, a bwrw wnaeth hi nes cyrraedd Rhosneigr.
Tra’n mwynhau paned yn un o’r bwytai peidiodd y glaw a diflannodd y demtasiwn i ddal bws yn ôl i’r man cychwyn!
Roedd y daith yn ôl yn braf a’r llwybrau yn frith o glustog Fair.
Cyn cyrraedd Trecastell cawsom gip ar Farclodiad y Gawres – siambr gladdu o’r cyfnod Neolithig.
Braf oedd derbyn neges destun yn cofio atom gan John Arthur, un o aelodau ffyddlon teithiau dydd Mercher, a deall ei fod ar wella wedi cyfnod yn yr ysbyty.
Adroddiad gan Anet
Lluniau gan Anet (1-4) a Haf Meredydd ar Fflickr
1- Barclodiad y Gawres
2- Edrych nôl tua Cymyran
3- Sarn Penrhyn Hwlad
4- Tua Barclodiad y Gawres