De'r Carneddau 21 Chwefror
Saith ohonom (John Arthur, Iolyn, Gwyn Chwilog, Janet B, Gareth Caernarfon ac Anet gyda John Parri yn arwain) yn cychwyn i fyny’r lôn tua Ffynnon Llugwy, i’r niwl ym mwlch Eryl Farchog uwchben Cwm Eigiau ac i niwl mwy trwchus fyth ar Garnedd Llywelyn. Dal yn y niwl ar hyd Cefn Ysgolion Duon ond wrth ddringo’r llethr tua Charnedd Dafydd daeth yr haul i’r golwg a gwelsom sawl broken spectre. Ar gopa Carnedd Dafydd dyma ddod uwchben y cymylau a gweld copa’r Wyddfa yn y pellter fel ynys yn nofio yn y niwl. Erbyn cyrraedd Pen yr Ole Wen roedd y niwl yn clirio a’r daith tua Ffynnon Lloer a Glan Dena yn glir. Diwrnod i’w gofio.
Adroddiad gan Anet
Lluniau gan Anet ar Fflickr