Mynydd Graig Goch 21 Mawrth

Deuddeg ddaeth i'r man cyfarfod ger Cors y Llyn ar gyrion Nebo ar fore niwlog, oer, sych. Pobl y tywydd wedi gaddo diwrnod braf!

Anet a Gwyn, Eirlys ac Iolyn, Gwen Richards, Janet, Morfudd, Arfon, Charli, Gareth, Iolo a minnau.

I mewn i Gwm Dulyn, i'r dde o'r llyn gan ddringo at silff letraws uwchben Craig Cwm Dulyn. Roeddwn yn gwybod fod na hebog tramor yn nythu ar y graig a thra roeddem yn edrych i lawr ar y nyth dyna lle'r oedd yr hebog ar bigyn o graig nepell i ffwrdd. I ffordd a fo (hi?) ond fe gawsom gip arall arno ymhellach mlaen. Ar dop y silff dilyn y map a'r cwmpawd at y copa.

Dim ond 1998 troedfedd ydi Mynydd Graig Goch ar fapiau'r Arolwg Ordnans, ond roedd rhai pobl yn amau cywirdeb uchder nifer o gopaon ym Mhrydain. Gan ddefnyddio offer soffistigedig cwmni Leica Geosystems a chyda cydweithrediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chlwb Mynydda Cymru, cynhaliwyd arolwg gan Myrddyn Phillips, John Barnard a Graham Jackson ar ddau gopa yn Eryri ym mis Awst 2008 – Craig Fach uwchben Pen y Pass a Mynydd Graig Goch. Cadarnhawyd fod y Graig Goch yn 'fynydd' – 609.75 metr neu 2000.49 troedfedd. Roedd gan Gymru 'fynydd' newydd!

Ta waeth, oherwydd y niwl, anodd oedd dyfalu pa un oedd y copa cywir!
Cinio oer rhwng y creigiau ac ymlaen i'r niwl, wedi cymryd sawl 'bearing' i groesi'r waun at Fwlch Cwm Dulun. Ymlaen trwy'r niwl a'r gwynt oer yng nghysgod y wal i gopa'r Garnedd Goch. Seibiant eto yng nghysgod y waliau i gael paned cyn cario mlaen gan ddilyn wal ar hyd y grib lydan i gyfeiriad Craig Cwm Silyn.

Ar y ffordd croesi hen gamfa ger tro amlwg yn y wal a chanfod dau hanner camfa newydd. Cyfeirnod grid wedi ei sgwennu ar y gamfa yn cyfateb yn union a'r darlleniad ar GPS Charli.

Ymlaen at gopa Craig Cwm Silyn ac i lawr y grib ogleddol at Fwlch Drosbern. Syniad yr arweinydd oedd dilyn llwybr cul, cyfrin trwy'r grug i lawr at waelod y creigiau i gyfeiriad Llynnau Cwm Silyn. Roedd yn niwlog a chof yr arweinydd yr un mor niwlog – methwyd y llwybr a threuliwyd orig yn nadreddu lawr y llethr i waelod y creigiau! Ymlaen ar hyd y gweundir gwlyb i olwg Llynnau Cwm Silyn. Croesi rhwng y ddau brif lyn a dilyn y llwybr amlwg i lawr at y wal fynydd a'r ffordd gul uwch Llanllyfni. Y niwl yn codi rywfaint.

Dilyn llwybrau i gyfeiriad Cors y Llyn a'r ceir. Roedd na 'fp' a 'fb'
ar y map. Toedd na ddim llwybr, ond mi roedd na bont – slaban anferth o lechen. O gofio mai ar draws Cors y Llyn yr oeddem yn troedio, roedd yn anorfod ein bod am wlychu! Arfon a Gareth (y ddau gall) yn troi'n ol a dilyn y ffordd fawr at y pentref gan rowndio'r gors.

Ar wahan i'r niwl, y grug a'r corsydd, a chanlyniad y gem rygbi, diwrnod da! Diolch i bawb am eu hamynedd.

Adroddiad a llun gan Maldwyn Roberts

O.N. Anghofiais son wrth y criw ar ddechrau'r daith ar fy nau 'fetish'
newydd … grug 'vertical' a chorsydd!





 

 

 

 

 

 


 

Diweddarwyd gan y gwefeistr:

10/15/15 11:03