HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ynys Enlli 24 Mehefin


Ar ôl blynyddoedd o gynllunio, o'r diwedd cafwyd diwrnod perffaith ar gyfer ein taith o amgylch Pen Llyn ac Ynys Enlli ar ddydd Mercher, 24 Mehefin.

Daeth 17 draw ar y diwrnod ac ar ôl danfon y chwech cyntaf (Salmon a Mair, Seiriol a Bet, Wyn a Twm Glyn) drosodd i'r ynys, daeth Colin Siôn yn ôl i Borth Meudwy i nôl yr 11 teithiwr arall (Gwyn Chwilog, Rhian, Anet, John Arthur, Elizabeth, Iona, Gwenan, Haf, Carys, Arwyn a Gwen Richards) cyn mynd a ni am daith wych i weld palod ac adar môr eraill Ynys Gwylan Fawr ac Ynys Gwylan Fach, heibio'r Parwyd a Mynydd Gwyddel cyn belled â Ffynnon Fair, cyn croesi'r Swnt a mynd heibio Enlli ar yr ochr orllewinol, o gwmpas Pen Diban a'r Maen Du, heibio'r goleudy a glanio yng Nghafn Enlli.

Crwydro i fyny prif lôn yr ynys wedyn, galw yn yr ysgol i weld y posteri newydd, heibio Cristin i weld yr arddangosfa yn yr Wylfa Adar, heibio Plas Bach, cartref Afal Enlli, yna bwthyn bach gwyngalchog Carreg Bach, a chyrraedd y tai a'r adeiladau ym mhen gogleddol yr ynys, yr hen abaty, y fynwent a'r Capel.

Ar ôl tamaid o fwyd a chipolwg ar Gapel Enlli, cawsom wahoddiad gan Gwen Aaron a'i ffrindiau, oedd yn aros yn Ty Capel, i gael paned yn yr ardd. I fyny am y mynydd wedyn, heibio Ffynnon Barfau, a chyrraedd copa Mynydd Enlli gyda golygfeydd gwych i bob cyfeiriad, yn cynnwys Iwerddon.

Criw'r cwch cyntaf yn gorfod symud yn o sydyn wedyn i ddal y cwch, a'r lleill yn cael dod i lawr yn hamddenol a chael cyfle wrth aros i'r cwch ddod yn ôl i weld traeth melyn Porth Solfach, y goleudy a'r morloi llwyd yn torheulo ar y creigiau.

Diolch i bawb am eu cwmni, ac i Colin am daith arbennig iawn.

Adroddiad gan Haf Meredydd

Lluniau gan Haf Meredydd ar Fflickr

Lluniau
1 Parwyd
2 Colin Siôn, y cychwr
3 Mwynhau'r golygfeydd o Ben Llyn
4 Cip ar Ffynnon Fair
5 Croesi'r Swnt
6 Enlli o'r gorllewin
7 Heibio Maen Du, trwyn mwyaf deheuol yr ynys
8 Goleudy Enlli, adeiladwyd 1821
9 Wrth y Storws ar ôl glanio'n ddiogel
10 Edrych ar y posteri dehongli newydd yn yr ysgol
11 Ar gopa Mynydd Enlli
12 Ar gopa Mynydd Enlli