Manod Mawr 28 Tachwedd
Am 9.30 yn brydlon cychwynnodd Alwen a Ceri (arweinwyr), Ken, Richard, Llew a Gwen o faes parcio Cae Clyd, Manod, Blaenau Ffestiniog am Fanod Mawr. Roedd hi wedi bod yn bwrw eira yn ystod y nos ond gwawriodd yn fore sych a braf a’r Moelwynion a thu hwnt yn edrych yn wych dan eira cyntaf y gaeaf. Cawsom ninnau’r pleser o ryw dair modfedd ohono wrth fynd tua chopa Manod Mawr am frecwast hwyr tua’r un-ar-ddeg. Dilyn llwybrau’r chwarelwyr wedyn a chael rhannu gwybodaeth eang a dyfir Ceri am ddaeareg y mynydd a hanes y chwareli. Roedd yr adlewyrchiadau yn y llynnoedd yn cyfareddu’r aelodau. Ar lannau Llyn Manod cafwyd yr ail damaid o fwyd , a ninnau’n edmygu esgidiau a menig newydd Ken a siaced newydd Richard.
Daeth pawb yn ôl i’r ceir yn hapus bod digon o amser i gyrraedd gartref erbyn y gêm rygbi. Diolch Alwen a Ceri - briliynt!
Adroddiad gan Alwen