Ulaidh 24 Hydref - 1 Tachwedd
Ar ddiwedd mis Hydref aeth naw o aelodau’r clwb am wyliau i’r Iwerddon – Clive (y trefnydd), Rhiannon, Geraint a Meira, Gwyn Chwilog, Gwen Richards, Haf, Gwen Rhuthun ac Anet. Ym mhentref Port Ballintrae oedd ein llety nos Fawrth, mewn dau dy hunan- arlwyo a digon o le i bawb.
Fore Mercher dyma ni’n cychwyn am Sarn y Cewri, Giant’s Causeway. Roedd nifer ohonom heb ei gweld o’r blaen ac wedi’n swyno gan un o ryfeddodau’r byd.
‘Dydy o ddim byd tebyg i beth roeddwn i wedi’i ddisgwyl - maint y peth sy’n rhyfeddol - y miloedd o gerrig a’r pileri anferth!’ meddai rhywun.
Yn ôl rhai pobl, llosgfynyddoedd a’i creodd dros drigain miliwn o flynyddoedd yn ôl, ond y gwir yw, wrth gwrs, mai’r cawr Finn McCool a gododd sarn dros y môr i Staffa yn yr Alban yn ystod ffrae taflu cerrig at y cawr Fingal ar yr ochr draw. Roedd gweddill y daith ar lwybr arfordir Ulster - llwybr amrywiol a difyr. Cawsom gwmni ci a fu’n arweinydd di-ffael inni am filltiroedd. Ar ben y daith roedd cyfle i groesi o un penrhyn o graig at ynys gan ddefnyddio pont rhaffau Carrick-a-Rede, profiad cyffrous.
Taith arall ar arfordir gogledd Antrim oedd ein hanes ar y dydd Iau, ac ymweld ag Ynys Rathlin ar gwch o Ballycastle. Roedd yma warchodfa natur a dau oleudy. Aeth pawb i ddarganfod rhannau gwahanol ohoni yn ôl eu diddordebau. Roedd ôl graen ar bopeth yma ac er mai chwech o blant yn unig sydd yn yr ysgol gynradd roedd hi’n ysgol drwsiadus dros ben. A hithau’n hanner tymor ysgol doedd dim modd mynd i mewn ond, yn ôl un o’r trigolion, mae yma groeso bob amser i ymwelwyr sgwrsio â’r plant er mwyn ehangu’u profiad.
Roedd tywydd y ddau ddiwrnod cyntaf yn ddymunol, a heb angen gwisgo dillad glaw o gwbl. Stori arall oedd hi ar y dydd Gwener – gwynt a glaw trwm - ond yn ffodus i ni, hwn oedd diwrnod symud i ran arall y wlad i lety yn Dundrum gyda glannau’r loch ar waelod ein gardd.
Gwawriodd dydd Sadwrn yn braf a dyma ni’n cyfiawnhau ein henw Clwb Mynydda gan gerdded ym mynyddoedd Mourne ac i gopa Slieve Donard, copa uchaf Ulster, a chael ambell gip ar Ynys Manaw. Wedi dilyn Wal Mourne i’r copa ac i lawr i’r bwlch yr ochr arall ymlaen â ni ar hyd llwybr y Brandy Pad i Fwlch Hare ac i lawr llwybr Strassey gan orffen yn Newcastle lle roedd dathliadau Noson Calan Gaeaf ar eu hanterth.
Wedyn, dathlu diwedd y daith gyda chinio arbennig o dda yn Dundrum gan ddisgwyl hwylio adre amser cinio dydd Sul. Daeth y newyddion nad oedd ein cwch yn mynd oherwydd y gwynt ac felly buom yn ffodus i gael diwrnod ychwanegol i ddarganfod neu ail ddarganfod dinas Dulyn cyn dal cwch adre am naw y noson honno.
Roedd pobl Ulaidh yn hynod o gyfeillgar a chroesawgar ymhobman.
Diolch arbennig i Clive am ei drefniadau di-lol a thrwyadl fel arfer. Mae pawb yn holi ‘Ble fydd y gwyliau nesaf?’
Adroddiad gan Gwen Evans
Lluniau gan Anet a Gwyn Chwilog (detholiad gan Haf) ar Fflickr
Diwrnod 1: Sarn y Cawr a'r arfordir
Edrych i lawr ar Sarn y Cawr
Y pantiau yng nghreigiau Sarn y Cawr
Sarn y Cawr
Anodd credu mai craig ydy hon
Patrwm y cerrig chwe-ochr
Pawb wedi gwirioni ar ffurf y cerrig
Yr organ
Y criw yn edmygu'r 'organ beips'
Y llwybr trwy'r graig
Anodd mynd ar goll!
Trwy'r bwlch
Dwy golofn yn dal i sefyll
Ffurf rhyfeddol y clogwyni
Y bont raff, Carrick-a-Rede
Diwrnod 2: Ynys Rathlin
Croesi i'r ynys - 'mae nhw'n deud bod merched yn siarad ..."
Edrych draw tua'r tir mawr
Diwrnod 4: Slieve Donard
Cerdded efo'r afon am sbel
Anelu am glawdd enwog Mourne
"Ia, ffor'na"
Cyrraedd clawdd Mourne - be mae Clive yn ei neud sgwni?
Clawdd trawiadol Mourne
Ar gopa Slieve Donard
Cinio yng nghysgod y clawdd
Geraint ar y blaen
Dau lun arall o'r criw ar Sarn y Cewri gan Gwen ag Anet: