HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa 1 Ionawr


Daeth 23 o aelodau at ei gilydd yn brydlon ym maes parcio Pen y Pass. Bore bendigedig, gyda golygfeydd alpaidd o'n cwmpas. Ceir a cherddwyr yn sglefrio ar y rhew yn y maes parcio gan na fu neb yn clirio eira - bu cynnig y dylai'r Clwb brynu rhaw i Aneurin.....!

Cychwyn ar hyd llwybr y PyG, gan wisgo cramponau'n syth o'r maes parcio. Gwahanu ym Mwlch Coch. Saith yn dewis mynd hyd y Grib Goch, oedd yn ddifyr er gwaetha'r eira ansefydlog. Y gweddill yn dilyn llwybr y PyG, lle roedd y zigzags wedi diflannu bron, a'r llwybr ar draws at Fwlch Glas wedi culhau dan eira.

Trwy gynllunio perffaith (?), ail-ymuno ar y copa am ginio ger y 'caffi' newydd. Sgwrs hefo Richard Brunstrom ar y copa (mi ddaru o werthfawrogi jôc amserol Shên: "Be 'dach chi'n galw plisman o Lanberis? - Copar Wyddfa!").
Neb wedi bod o'n blaenau lawr rhan uchaf Llwybr Watkin - ymlaen wedyn am Lliwedd. Y rhai o'r criw ddaeth i lawr Llwybr y Mwynwyr yn rhyfeddu at faint y lluwchfeydd dros y trac.

Diwrnod da!

Adroddiad gan Gwyn Roberts

Lluniau gan Gwyn, Gwyn Williams, o wneud Y Bedol gan Dylan a Gareth Wyn, Penmachno, hefyd gan Anet a Maldwyn ar Fflickr

Gweler hefyd luniau gan Geraint Efans ar Oriel y Clwb

Ac, i brofi nad oedd criw y de yn diogi chwaith dyma ddau lun gan Rhys Dafis ar ddiwedd y casgliad ar Fflickr