HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rowen i Gonwy 3 Gorffennaf


15 oedd ar y daith. Ar ddydd Sadwrn braf, Gorffennaf 3, ymgasglodd 15 o bobl yng Nghonwy ar gyfer taith Tal y Fan - a hynny er waethaf y peldroed a'r tennis ar y teledu y diwrnod hwnnw! Taith a hysbysebwyd ar y cyd a Gwyl Gerdded Conwy oedd hon. O'r criw a ddaeth ynghyd roedd 6 aelod o'r Clwb (Iolo, Twm, Gareth, Mary, Aneurin a Dilys) a'r 9 arall yn ymuno a thaith Clwb am y tro cyntaf, fel rhan o'r Wyl Gerdded. Braf oedd cael cwmni'r dysgwyr yn eu plith (Harry o Drefriw a Jane a Carol o Hen Golwyn) ac hefyd y rhai oedd yn fwy rhugl eu Cymraeg (Llyr, Mark a Wyn, Barbara ac Aled, a Gwen).

Wedi symud ceir i Rowen, dyma gychwyn cerdded trwy'r pentref ac yna ar draws y caeau gan godi'r raddol trwy'r amser at gopa Tal y Fan. Ar ôl dwyawr o ddringo cyson roedd pawb yn falch o gyrraedd y trig ar y copa a chael cinio yng nghysgod wal, gan fod awel eitha cref erbyn hynny. Ymlaen wedyn, gan ddisgyn heibio hen chwarel Tal y Fan - a chael cyfle i chwilota yn yr hen olion - i lawr at Faen Penddu. Llwybr braf wedyn heibio Cefn Maen Amor, Cefn Llechen a rhan o lwybr y Gogledd heibio Maen Esgob at Pen Sychnant. Yno cafwyd siom fwyaf y daith, gan nad oedd y fan hufen ia yn ei lle arferol! Doedd dim amdani ond mynd ymlaen dros Fynydd y Dref, gan oedi i edmygu olion hen gaer Caer Seion ar y copa, yn ôl i Gonwy.

Cawsom olygfeydd bendigedig, o Ddyffryn Conwy ar un ochr ac Ynys Seiriol a phen y Gogarth ar yr ochr arall, castell Conwy ac adeilad newydd y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno o'n blaenau a'r melinau gwynt allan yn y mor tu draw iddynt. Taith 10 milltir, 6 awr, gyda chwmni difyr a digon o gyfle i'r dysgwyr ymarfer eu Cymraeg. Gobeithio y cawn gwmni ambell un ohonynt ar daith Clwb yn y dyfydol.

Adroddiad gan Dilys

Lluniau gan Aneurin ar Fflickr