Pedol Senghenydd 6 Chwefror
Daeth nifer dda ar y daith hon – 23 – i gerdded ffin rhan o dir yr uchelwr o Gymro gynt, Ifor Bach, Senghennydd. Fo drechodd Saeson a Normaniaid castell Caerdydd mewn cyrch – a dyna ninnau’n mentro allan ar fore gêm rygbi rhwng Cymru a Lloegr!
Roedd hi’n fore braf ryfeddol wrth gyfarfod ym maes parcio’r Rose and Crown, Eglwysilan, ar ochr ddwyreiniol Cwm Taf. Aethom am y dwyrain i gychwyn, tros Fynydd Meio, gan ddilyn yr ochr uwchben Abertridwr. Mae clawdd a ffos yr hen ffin (y ‘Senghennydd Dyke’) i’w gweld yn blaen yma. Disgyn wedyn i lawr at y rheilffordd wrth yr afon, sydd bellach yn llwybr coediog braf, a’i ddilyn i lawr Cwm yr Aber o dan Hendredenny, cyn troi drwy ganol pentref Penyrheol. Ni alwodd neb yn y siop fetio i roi arian ar fuddugoliaeth Cymru ... Anelwyd wedyn am y gogledd, am Gwm Ifor, gan ddilyn y llwybr i fyny at gefn Y Bryn a’i domen lo, lle daethom unwaith eto at glawdd Senghennydd uwchben Llanbradach, Cwm Rhymni. O’r fan honno, dilyn y gorwel uwch y clawdd yn hanner cylch, dros Waun Deiliaid i ben Mynydd Eglwysilan. Cawsom baned yno, a chyflwyniad i’r ardal a’r golygfeydd gan ddwy o’r criw – Nia (Parsons) ac Ann Hopcyn – dwy chwaer a godwyd gerllaw. O dan yr heulwen, roedd modd gweld o gylch y cwmpawd yn llawn o’r fan hon –
- Bro Morgannwg (a thros Hafren i Wlad yr Haf a Dyfnaint) i’r de,
- y Rhondda, Cwm Taf a Chwm Cynon i’r gorllewin,
- y Bannau ar draws gorwel y gogledd,
- yna draw o ben uchaf Cwm Rhymni hyd at Drecelyn a Blaenau Gwent i’r dwyrain,
- ac i lawr am Gasnewydd dros gefn Machen.
Ymlaen wedyn heibio’r Carneddi Llwydion ar hyd y gefnen i Gefn Eglwysilan, uwchben Cilfynydd, lle gwelsom ddau dwmpath o lysnafedd gwynllyd, tebyg i wyau grifft mawr. Roedd un ar ben postyn! (Un i Gerallt Pennant a thîm Galwad Cynnar ei ddatrys).
Yna disgyn am y de, ac yn ôl i’r Rose and Crown – lle roedd croeso tanllwyth, a brechdannau, a sgrîn i weld gêm Iwerddon, yn ein haros! Taith ddymunol iawn o ryw 11 milltir. Piti am y sgôr ...
Adroddiad gan Rhys Dafis
Lluniaugan Emlyn (Pens) Jones ar Fflickr
- Pontypridd a Rhondda
- Golygfeydd Mynydd Eglwysilan
- Beth yw hwn Gerallt Pennant?
- Y criw a Pens wrth y camera