Cwm Giedd 6 Mawrth
A’r fore Sadwrn sych a’r ddechru Mis Mawrth trodd unarddeg o aelodau allan i gerdded yng Nghwm Giedd. Taith o tua 13 milltir ar hyd Cefn Mawr tuag at Twyn Tal y Ddraenen, troi i’r chwyth a chroesi’r afon gyntaf. Mlaen dros Carnau Nant Menyn cyn brechdan a phaned o fewn cysgod Carreg yr Ogof.
Trecio nôl heibio Carnau’r Garreg Las a dilyn rhan o Ffordd y Bannau cyn croesi’r afon Twrch a lawr heibio Bwlch y Ddeuwynt. Roeddwn wedi gobeithio gwneud cylch llawn a dod lawr drwy dir fferm Cyllie ond roedd yn rhy wlyb a’r hen lwybrau yn yr allt wedi mhell ei golli i natur. Felly, penderfynu dilyn y llwybyr y daethom i fyny nôl i’r ceir ym maes parcio y Comisiwn Coedwigaeth.
Adroddiad gan Guto Evans
Lluniau gan Guto Evans ar Fflickr