HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Cneifion 7 Mawrth


Dringo llechfaen yn Dinorwig oedd y bwriad ond gan fod y tywydd mor braf a'r eiria yn nefe caled fe benderfynwyd cerdded i Gwm Cneifion i ddringo hafnau rhew ac eira. Cafodd Dilwyn, Kate, Jeremy ac Alan amser da yn dringo Hafn y Twr ac yna yr Hafn Guddiedig. Tra bu Siân, Gwyn, Rhodri a minnau yn dringo cefn y cwm cyn dychwelyd yn ôl i Ogwen dros y Glyder Fach. Diwrnod o fynydda gaeaf gwych.

Adroddiad gan Arwel

Nodyn gan Myfyr:
Hwyr yn cyrraedd Ogwen. CMC wedi mynd ers oriau.
Rhew ac eira arbennig (gorau eirioed?). Fyny Col Gully o Lyn Bochlwyd i Gastell y Gwynt yna'r Glyder Fawr a Thwll Du. Gweld Arwel ac Alan yn Ogwen, hwythau wedi gwirionni a'r tywydd.

Lluniau gan Arwel a Myfyr ar Fflickr