HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cofio Llew ap Gwent


Teyrnged gan Gerallt Pennant:

Gwyddai pawb fu'n mynydda yng nghwmni Llew ap Gwent am ei natur addfwyn a bonheddig. Fel arweinydd, roedd yn ofalus a chydwybodol. Fel cydymaith, roedd yn ddifyr ei sgwrs ac yn bendant ei farn. Os bu aelod erioed o Glwb Mynydda Cymru fu'n gwbl driw i amcan y Clwb o hyrwyddo mynydda trwy gyfrwng y Gymraeg, Llew oedd hwnnw. Wrth gofio amdano, mi fydd gan bob un ohonom atgof am ei sgyrsiau diddan, ei hiwmor cynnil a'i angerdd am dir a daear Cymru. Gwyddai hefyd sut i ysbrydoli, ac mae'r cynnydd yng ngweithgareddau'r Clwb yn Ne Cymru yn tystio i hynny. Mi fydd hi'n chwithig meddwl am droi tua'r mynydd heb gwmni un o'n cyd gerddwyr selocaf o hyn ymlaen. Afraid dweud fod Llew wedi cyfrannu yn hael i'w gymdeithas yn Llanuwchllyn ac i achosion cenedlaethol oedd yn agos at ei galon. Mae'n gadael bwlch mewn sawl mudiad ac achos, ac mae'n cofion a'n cydymdeimlad yn ddwys a didwyll efo Dyfir a'r teulu.

Taith arbennig i gofio am Llew 12 Mai

Llawer o ddiolch i bawb ddaeth draw i Nantgwynant i ymuno â'r daith i gofio am Llew. Diolch hefyd i Jeremy am fod mor barod i ohirio ei daith wreiddiol ar fyr rybudd.

Daeth 18 ynghyd wrth ymyl Pont Bethania a phenderfynwyd mynd o amgylch Llyn Gwynant am dro bach. Roedd yn hyfryd clywed adar mudol fel y gwybedog brith a thelor y coed yn canu yn y goedlan dderw wrth i ni gychwyn i gyfeiriad Hafod y Llan. Yna, wedi i ni ddod i dir mwy agored ar ôl mynd heibio'r fferm, roedd adar mudol y ffridd fel y tingoch a chorhedydd y coed i'w clywed. Wedi cyrraedd man uchaf y daith, yn edrych i lawr am Llyn Gwynant, cafwyd cawod oer - a gwlyb - o genllysg. Wrth i ni aros yma am funud neu ddau o dawelwch i gofio am Llew, rhyfeddol oedd clywed y gog yn canu i fyny'r cwm i gyfeiriad Cwm Dyli. Ar ôl cwblhau'r cylch o amgylch y llyn drwy ddilyn glan yr afon yn ôl at y Bont, aeth pawb am baned a thamaid i'w fwyta yng Nghaffi Gwynant, a diolch i Dei am ddod yr holl ffordd o Gricieth ar ei feic i ymuno â ni. Bu'n ddiwrnod i'w gofio a'i drysori.

Y cerddwyr: Twm Glyn, John Wms, Arwyn, Iolo, Gwilym, Anwen, John Arthur, Huw, Alan, Meic, Gwyn, Rhiannon, Siân, Rhian, Anet, Rheinallt, Jeremy a Haf.
Llun uchod: Y 18 oedd ar y daith o amgylch Llyn Gwynant.

Adroddiad a lluniau (ar Fflickr) gan Haf Meredydd


Cofio Llew ar Benrhyn Gŵyr 15 Mai

Ar yr 15fed o Fai 2010 fe wnaeth 9 aelod o griw y de ymgynnull ym maes parcio Porth Einon. Dechrau wrth gerdded lawr y lon heibio’r YHA a’r ty halen cyn troi i’r dde orllewin ac i fyny am y pentir uwchben y bae. Dyma lle mae ‘na gofeb i Gwent Jones (un y sylfaenwyr y Gower Society)a rhywle addas i osod torch i dalu teyrnged i un o ffrindiau mawr y clwb, Llew ap Gwent. Wedi gosod y torch cafwyd cwpwl o funedau o myfyrdod ac i gofio, yr unig swn oedd gylfinir a phioden y mor yn canu ar y traeth yn y bae a cloch bwi yn clochian allan yn y mor.

Cawsom oedfa fach wrth ganu “Dros Gymru’n gwlad”cyn i’r grwp wahanu gyda rhai ohonom yn mynd ‘mlaen i Ben Pyrod.

Adroddiad gan Guto Evans