HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pumlumon 12 Mehefin


Cyfarfu deg ohonom; Morfudd, Arwel, Iolo (Caernarfon), Mike, Guto (a Lara'r ast), Mark, Pete, Huw Myrddin, Eryl a minnau; yn brydlon ym maes parcio argae Nant y Moch ar fore hyfryd o Fehefin. Roedd awel ysgafn o'r gogledd - a brofodd i fod yn fendith ar brydiau i leddfu gwres haul canol haf.

Anelwyd yn gyntaf am ben deheuol cadwyn copaon Pumlumon, Y Garn. Profodd y tywydd sych diweddar yn fendith ar y darnau cyntaf a'n galluogi i gadw'n traed yn sych. Lle da am de-ddeg (wel, nes i unarddeg a dweud y gwir). O gopa'r Garn dilynwyd y grib i fyny i fan uchaf y diwrnod, copa Pumlumon Fawr a cyfle am ginio ger y garnedd fawr. Diddanwyd pawb gan nid yn unig gan ffraethineb Mark ond maint a chynnwys ei focs tocyn hefyd. Gadawodd Guto (a Lara) ni i fynd dros Pumlumon Fach i lawr at Lyn Llygad Rheidol ac yl ôl i Nant y Moch (doedd Lara ddim ffansi gwneud y daith gyfan!).

Ymlaen, wedi cinio, am copa Pumlumon Llygad-bychan ger tarddiad yr afon Gwy. Wedyn dilyn y llwybr am gopa Pumlumon Arwystli, yr ail-ucha o gopaon y dydd a rhyfeddu at y carneddi anferth ar y safle hon - heb sôn am yr olygfa o gymylau llwch yn codi o olwynion ceir ralio ar gwrs cyflyn Sweet Lamb oddi isod. Bwrw mlaen wedyn i'r gogledd hyd at y corsydd ble mae tarddiad yr Afon Hafren, cyn troi i'r gorllewin a dilyn y gefnen lydan hyd at golofn garreg bron i ddeg troedfedd o uchder ar drwyn y gefnen oedd yn ein harwain i lawr at Afon Hengwm. Llwyddwyd i groesi'r afon mwy neu lai yn droedsych - er i Pete benderfynu nad oedd cadw'r traed yn sych yn bwysig. Codi'n weddod serth wedyn am gopa Banc Lluestnewydd a chael golygfa dda o faes y gâd Brwydr Hyddgen - ble y cafodd byddin cymharol fechan Owain Glyndwr fuddugoliaeth allweddol dros fyddin Saesnig, teirgwaith maint un y Cymry, yn 1401. Gellid gweld Gerrig Cyfamod Glyndwr yn glir hefyd. Rhyfedd fod digwyddiad mewn man mor anghysbell wedi bod yn allweddol yn hanes ein cenedl.

Dilynwyd cefnen Banc Lluestnewydd i lawr i'r bont fros Afon Hengwm ac yna dilyn y ffordd i gyfeiriad Maesnant. Unwaith y cyrhaeddwyd y fford darmac yna roedd Guto, chware teg iddo,wedi dod i'n cyfarfod yn y cerbyd gwyn a cafodd gyrrwyr y ceir eu cludo nôl i gasglu'r ceir ac arbed i bawb orfod cerdded y milltir a hanner olaf yn ôl at yr argae ar ffordd darmac.

Diwrnod eithriadol o braf a chyfle i weld ucheldir y Canolbarth ar ei orau. Braf oedd gweld criw y Gogledd a'r De yn cyfarfod yn y Canobarth fel hyn. Dyma rhywbeth y byddai'r diweddar annwyl Llew Gwent wedi ei fwynhau yn fawr pebai wedi bod gyda ni - fel y byddai, mae'n siwr.

Adroddiad gan Iolo ap Gwynn

lluniau gan Iolo ap Gwynn ar Fflickr