HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Coedwig Gwydir 14 Ebrill


23 ohonom yn troi fyny ym maes parcio Bryn Glo, Capel Curig, am daith heibio llynnoedd cuddiedig Coedwig Gwydir. Rhagolygon y tywydd yn sych a chymylog ac yn addas am daith, felly mynd mewn rhes o`r maes parcio i fyny heibio Nyth Bran--neb am gynnig chwarter miliwn am y bwthyn!!--ac ymuno a`r llwybyr o Gapel Curig a throi am y goedwig a dilyn ffordd y Goedwigaeth a cael paned ar lan llyn cynta o`r daith sef Llyn Goddionduon, wedyn dilyn y ffordd ymlaen i Lyn Bychan. Clwb pysgota Betws-y-Coed sy`n dal yr hawl pysgota am y ddau lyn yma. Dal ymlaen a chyrraedd Llyn Geirionydd lle cawsom ginio yn y maes picnic.

Crwydro ymlaen trwy`r goedwig ac allan i`r ffordd a throi am Lynnoedd Glan Gors a Pandora, wedyn croesi`r ffordd am Lynnoedd Bodgynydd bach a mawr. Creuwyd y llynnoedd yma i yrru peiriannau yn gwaith plwm Pandora a gaewyd yn 1960.

Dilyn y ffordd Goedwigaeth uwchben ffarm Y Glyn, wedyn troi ar y llwybyr a chroesi`r bont troed newydd tros Afon Abrach ac yn ol am y maes parcio.

Cawsom olygfeydd hardd o fynyddoedd Eryri yma ac acw ar hyd y daith.

Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac i Haf am ychwanegu at y lluniau.

Adroddiad gan Gwilym Jackson, yr arweinydd

Lluniau gan Haf Meredydd (1-12) a Gwilym Jackson (13-15) ar Fflickr