HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

O gwmpas Caernarfon 14 Gorffennaf


Tri cynnig i Gymro

Taith pum milltir o gwmpas Caernarfon. Arweinydd Alun Roberts.

Saith yn cerdded, Sian Davies, Anette, Rhiannon Humphreys Jones, Twm, Arwyn, Gareth Tilsley a`r arweinydd.

Cychwyn o`r Galeri am 10.15 a.m. Cerdded tua`r Felinheli ar y trac beics cyn troi i`r chwith ger Porth Waterloo. Cyrraedd Canolfan Hamdden Caernarfon a dyma y gawod gyntaf o lawer yn cyrraedd. Cael paned a chysgodi yn y Ganolfan. Croesi`r ffordd am Faesincla cyn i ni gael ein dal gan gawod drom ofnadwy ger y Swyddfa Heddlu. Croesi`r Afon Cadnant i Rosbodrual ac yna dilyn y llwybr i ben ucha ward Peblig cyn disgyn i lawr at Afon Seiont. Dilyn yr afon i Barc Cyhoeddus Caernarfon lle cawsom ginio. Ymuno a`r trac beics ger Tesco a chychwyn hi am Llanfaglan Troi i`r chwith a mynd drwy fuarth fferm yr Hendy a chroesi tri cae a chasglu madarch wrth fynd. Pawb yn casglu ond Twm- mae ganddo lond caeau ohonynt tua Gyrn Goch! Yna croesi cae o geirch- llwybr pwrpasol wedi ei baratoi. Disgyn i lawr i fferm Plas yna dilyn y llwybr cyhoeddus drwy`r Clwb Golff. Cyrraedd y Fenai a cherdded am y dre a chroesi Pont Rabar a cherdded am y Galeri. Taith wahanol iawn i deithiau arferol y clwb ond wrth weld y mellt a chlywed y tarannau dros Eryri dewis doeth iawn. Taith na fu o fewn waliau`r dre ond taith oedd yn dangos gwedd wahanol ar i`r dre.

 

Adroddiad gan Alun

Llun gan Alun