Taith Cwch Gogledd Llŷn 16 Mehefin
Ar fore eithriadol o braf o haf, daeth 11 ohonom draw i Borth Meudwy, Aberdaron, erbyn 10.30 y bore. Yn brydlon iawn daeth cwch melyn Colin y cychwr o gyfeiriad Enlli i'n codi o'r traeth a mynd â ni am daith cwch.
Yn gyntaf cawsom gyfle i weld yr adar môr o bob math sy'n nythu ar Ynys Gwylan Fawr ac Ynys Gwylan Fach. Roedd y palod i'w gweld o'n cwmpas ym mhob man, ar y môr, yn gwibio heibio uwchben efo llond pig o lymrïaid i'w cywion a'r tu allan i'w tyllau.
Ar y ddwy ynys mi welson ni hefyd wylanod penwaig a chefnddu lleiaf ac un neu ddau o barau o'r gefnddu fwyaf, mulfrain werdd ac ambell i bâr o filidowcars. Roedd pawb wedi gwirioni gweld tri chyw bach y saer - y bioden fôr - yn pigo wrth draed un o'r oedolion gwarchodol. Yna, ymlaen am glogwyn trawiadol y Parwyd, cyn-agorfa folcanig yn ôl Colin, wrth ymyl Trwyn Bychestyn, heibio'r Garreg Ddu, Porth Felen a Thrwyn y Gwyddel, cyn arafu eto i weld Ffynnon Fair, y grisiau wedi eu naddu'n y graig uwch ei phen, a'r dwr croyw yn llifo ohoni i'r môr. Roedd teimlad eitha gwahanol ar ôl i ni fynd heibio Trwyn Maen Melyn wrth adael y Swnt a mynd o gwmpas Braich y Pwll tua'r gogledd. Difyr oedd gweld Colin yn gwirioni ar ogofau'r môr ar yr ochr ogleddol yma nad oedd o wedi eu gweld o'r blaen, a'r pleser oedd o'n ei gael o fagio i mewn iddyn nhw'n ara deg gan fod y môr mor eithriadol o lonydd a chlir! Ymlaen wedyn heibio amrywiol faeau a phyrth fel Porth Llanllawen, Porthorion, Dinas Fawr a Dinas Fach, cyn dod i olwg Porth Oer, a glanio ar y tywod melyn.
Ffarwelio â Colin a chinio a phaned wedyn yn y caffi, cyn cael ein tywys gan Anet yn ôl am Borth Meudwy ar hyd llwybr yr arfordir, gan edrych i lawr y tro yma ar y cilfachau a'r baeau bach yr oeddan ni wedi eu gweld o'r môr ychydig yn gynt. Diwrnod hyfryd yn sŵn y brain coesgoch - diolch am y cwmni.
Adroddiad a lluniau gan Haf
Lluniau gan Haf ar Fflickr
Lluniau:
- Oddi ar Ynys Gwylan Fawr
- Parwyd
- Enlli ar draws y Swnt
- Mordaith yn yr haul
- Ogof wrth Porth Llanllawen
- Y môr yn eithriadol o glir a llonydd
- Y bae a'r traeth wrth Dinas Fach
- Agosau at Borth Oer
- Y cychwr llon wrth ei waith
- Taith bell o'r cwch i draeth Porth Oer!
- Colin a'i gwch melyn
- Y ciw am doiledau Porth Oer
- Traeth Porth Oer - 'ta'r Algarve?
- Ar lwybr yr arfordir
- Yr 11 morwr glew
- Aelodau newydd yn arwain y fintai?
- O Anelog am Fraich y Pwll
- Bysedd y cwn
- Criw ffilmio 'Bro' ar Uwchmynydd