Eirlithradau Cwm Caseg 17 Ionawr
Aelodau'r Clwb yn canfod eirlithradau - trefniaint preifat
Mae llawer o sôn wedi bod yn ddiweddar yn y wasg am eirlithradau yn Eryri. Diddorol oedd dod ar draws gweddillion dau ohonynt yng Ngwm Caseg. Roedd y cyntaf o dan Bera Bach ar llall wrth droed Carreg y Garth. Roedd y ddau eirlithrad ar yr ochr gysgodol i'r gwynt gogledd ddwyrain ac ar lechweddau llai serth. Hynny yw lle y byddech yn disgwyl cael eirlithrad slabwynt. Os ydych â diddordeb yn yn y pwnc yma mae cwis diddorol yw gael ar wefan Glenmore Lodge.
Adroddiad gan Arwel Roberts
Lluniau gan Arwel Roberts ar Fflickr