HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Eifl 17 Gorffennaf


Saith ohonom ddaeth i'r maes parcio uwchben Nant Gwrtheyrn – Beti Rhys, Gwyn Llanrwst, Iolo Caernarfon, Dylan Llanuwchllyn, Twm Glyn o'r Gyrn Goch, George a minnau – ar fore llwydaidd. Arolygon tywydd yn gaddo iddi godi yn ystod y prynhawn.

Dilyn Llwybr Arfordir Llyn ar hyd y wal fawr uwchben pentref Llithfaen a rowndio i gyfeiriad Caergribin uwchben ffordd Llanaelhaearn. Y llethrau'n dorreth o lus yn barod i'w bwyta – tafodau piws! Yn ol i'r llwybr ac i fyny am Dre'r Ceiri, drwy'r mur allanol ac ymlwybro drwy'r cytiau i'r copa.

Panad, cinio cynta a sgwrs gyda golygfeydd braf o benrhyn Llyn ac Eryri o'n cwmpas. Rowndio o fewn y mur ac allan drwy'r porth gorllewinol i lawr i'r bwlch o dan yr Eifl. Llwybr cul i fyny drwy'r sgri a'r grug a'r llus – ambell i smotyn o baent melyn ar y cerrig yn dangos y ffordd. Copa'r Eifl reit wyntog a mochel i gael ail ginio o fewn y garnedd gron.

I lawr yn serth at Fwlch yr Eifl uwchben Trefor a dilyn llwybr a grisiau concrid i fyny at fast (ffôn?) uwchben y chwarel, ar hyd un o'r ponciau at y dibyn uwchben pentref Trefor ac i fyny i gopa'r trydydd pigyn uwchben y môr.

I lawr yn ôl i'r Bwlch a dilyn llwybr am Drwyn y Gorlech – yn uchel uwchben y môr – ac yna lawr drwy hen weithfeydd gwenithfaen Chwarel y Nant gan anelu am y pentref a Chaffi Meinir. Trafferth yn y jyngl ar waelod y llethr a bu'n rhaid anelu am y traeth. Ar ei hyd ac i fyny at y Caffi ond hwnnw wedi cau – gwledd briodas yno! (deall fod Anet yno). Lot o wario wedi bod yn y Nant yn ddiweddar a logo'r Loteri yn amlwg ar waelod yr allt. Dilyn honno'n serth yn ol i'r maes parcio.

Diolch i bawb, yn enwedig i Twm am ei wybodaeth lleol.

Adroddiad gan Maldwyn

Lluniau gan Maldwyn ar Fflickr