Penwythnos y Rhinogydd 18-20 Mehefin
Cafwyd penwythnos gwirioneddol wych yn Ardudwy.
Tyddyn Llidiart (cartref Eirlys a Iolyn ger Cwm Nantcol ) oedd y base camp, ac ni ellid fod wedi cael lle gwell i aros. Dyma lle cafodd Eirlys ei chodi, ac mae’r gwaith adnewyddu diweddar ar yr hen ffermdy (sy’n 300 oed) wedi cadw’r cymeriad i’r dim. A sôn am olygfeydd ar dywydd braf – o’r Rhinogydd y tu cefn i’r tŷ, i’r Wyddfa a Chrib Nantlle, a draw ar hyd yr arfordir o Borthmadog cyn belled ag Enlli.
Fore Sadwrn, ymunodd teithwyr boreol â’r dwsin oedd yn gwersylla yn Nhyddyn Llidiart, a ffwrdd â ni ar hyd llwybr y porthmyn (llwybr Bontddu) tua’r de-ddwyrain, a’r haul eisoes yn go danbaid. Ar ôl oedi ar Bont Scethin, cadw ar y llwybr porthmyn tua’r de ar lethr Llawlech, ac yna dringo’r ysgwydd am Diffwys i’r gogledd ddwyrain, gyda’r wal. Roedd y golygfeydd yn fendigedig, o arfordir Ardudwy yn gylch i gynnwys aber y Fawddach, Cader Idris, y ddwy Aran, y Berwyn, Rhobell Fawr a’r Arennig, Mynydd Hiraethog, y Carneddau, y Glyderau, a’r Wyddfa, Trawsfynydd a’r Moelwyn dros ysgwydd y ddwy Rinog, ac yna de Arfon a Phen Llŷn.
Ar ben Llethr, a llygad yr haul yn boeth iawn, gwahanwyd yn ddwy garfan. Aeth rhai ymlaen am y gogledd gan ddisgyn at Lyn Hywel a’i weunydd llus, ac yna dringo Rhinog Fach i’r copa. Oddi yno, anelwyd am y gogledd am ychydig, ac yna (cyn dechrau disgyn i Ddrws Ardudwy) troi i’r gorllewin i lawr y llwybr serth sydd ar dalcen gorllewinol Rhinog Fach. Ar ôl croesi ffrwd Llyn Perfeddau, dal i fynd i’r gorllewin am yr hen waith manganese, a dilyn y llwybr trol i lawr at Graig Isaf, cyn dychwelyd ar hyd y ffordd fesul giât (neu iet, Alun!) yn ôl i Dyddyn Llidiart. Trodd y gweddill i’r gorllewin o Llethr, gan groesi cefnen Moel Blithcwm am fynydd Moelfre a phanorama’r arfordir, lle gwelir olion Cantre’r Gwaelod yn nadreddu o dan y dŵr am Iwerddon.
Yn ein haros yr oedd gwledd o swper croeso yng nghefn cysgodol y tŷ, a’r haul yn llithro i’w fachlud dros Ben Llŷn.
Ddydd Sul, ymunodd selogion gwahanol efo’r gwersyllwyr ar fore yr un mor braf. Gadawyd ceir ym Maes y Garnedd, Cwm Nantcol, a cherdded i’r dwyrain am Ddrws Ardudwy. Yng ngheg y bwlch, dyna gymryd y llwybr sgri serth sy’n dringo cesail dde-orllewin Rhinog Fawr – dringfa go egr ar ddiwrnod poeth. Ar y copa, roedd criw mawr o gerddwyr ifanc ar daith wersylla yn mwynhau’r her. Ar ôl cinio haeddiannol, dilynwyd y llwybr am y gorllewin i lawr at y wal ac yna ymuno efo’r prif lwybr o Gloyw Lyn i Nantcol yn nes i lawr ar y gefnen wlyb. Wrth nesu at y ceir, roedd dwy gog yn canu nerth eu pennau!
Diolch i Eirlys a Iolyn am eu croeso, ac am drefnu penwythnos mor gofiadwy.
Adroddiad gan Rhys Dafis
Lluniau gan Rhys Dafis ar Fflickr
- Cynnull yn Nhyddyn Llidiart
- Llwybr y Porthmyn
- Pont Scethin
- Y Fawddach o Diffwys
- Cader Idris
- Pen Llyn dros Moelfre o Diffwys
- Rhys, Vaughan, y 2 Aled a Llio am Llethr
- Yr Eifl o Llethr
- Y ddwy Rinog a'r Wyddfa tu ôl
- I lawr am Lyn Hywel a'i lus
- LLyn Hywel a Phen Llyn
- Ar gopa Rhinog Fach
- Dwy afr gorniog
- A dwy afr arall
- Sgwrs ac ambell ddiferyn
- Machlud dros Ben Llyn
- Pa daith tybed
- Am Rinog Fawr
- Gwyliwch y drogod...
- I fyny am Rinog Fawr
- Y dibyn am Ddrws Ardudwy
- Gwaith caled ...
- Yn y rhigol
- Copa Rhinog Fawr
- Abraham a'i dylwyth ..
- .. a holl lwyth Israel
- Rhinog Fach, Llethr a Diffwys - a Chader Idris
- Panorama'r Morfa Mawr