Simdde Lockwood 18 Medi
Dringwyd Simdde Lockwood gyntaf gan Arthur Lockwood a oedd yn beirianydd ym mhwerdy Cwm Dyli yn 1909. Yr un flwyddyn priododd Florence Bloomfield, rheolwraig gwesty Pen y Gwryd. Yn 1921 prynnodd y gwesty ac adeiladodd lyn gyferbyn i fagu brithyll.(Llyn Lockwood)
Erbyn hyn mae dringo'r simdde wedi dod yn eitha poblogaidd yn rhaglen y clwb. Dwi ddim yn siwr pam oherwydd mae'n debycach i ddringo mewn ogof na dringo craig. Er mae'n hwyl gweld ffrindiau yn stwffio a stryffaglu drwy'r hollt enfawr.
Diolch i Eli,Marion,Sian a Rhodri am eu cwmni, i Cliff a John am gyd arwain a chroeso i Raymond a Sue ar ei dringfa cyntaf hefo'r Clwb.
Adroddiad gan Arwel
Lluniau gan Arwel ar Fflickr