HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cymoedd gogleddol Bwlch Llanberis 20 Mawrth


Pedwar yn unig (Gwen a Richard o Ruthun, Dafydd o Lanwnda a minnau) a fentrodd i faes parcio'r Parc Cenedlaethol Nant Peris ar fore tamp ac oer.

Dal bws y Sherpa (llawn dop) i fyny i Ben y Pass (roedd y peiriant tocynnau yn y Nant i fod i roi 2 docyn, un i'w roi yn y car a'r llall i'w ddangos ar y bws i gael tocyn hanner pris, ond un tocyn yn unig ddaeth o'r peiriant a bu rhaid i Richard dalu'n llawn ar y bws).

Cychwyn i fyny llwybr y PYG a'i adael cyn y dringo i fyny at Fwlch Moch i ddilyn hen lwybr ar draws at Gwm Beudy Mawr (taith 10 yn llyfr Cymru Poucher o'r 60au). Ambell i garnedd ond y llwybr ddim yn amlwg a llawer o nentydd llawn i'w croesi.

Croesi crib ogleddol Crib Goch uwchben Dinas Mot (llun 1), cinio sydyn a rowndio i mewn i Gwm Uchaf (croesi ambell ddarn o hen eira) uwchben Craig Rhaeadr ac i lawr i Gwm Glas Mawr o dan Cyrn Las, croesi mwy o afonydd llawn ac i fyny at grib Chwarennog (llun 2) a chael ail ginio.

Ar draws ac i lawr i Gwm Glas Bach neu Gwm Hetia a dilyn yr afon i lawr at y lon fawr ac ar hyd y llwybr newydd ochr arall i'r wal o Wastadnant yn ôl i'r maes parcio.

Piti fod y cymylau mor isel ond diwrnod da a diolch i'r tri am eu cwmni difyr.

Adroddiad gan Maldwyn Roberts

Lluniau gan Maldwyn Roberts ar Fflickr