HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Glyder Fach a'r Fawr 20 Tachwedd


Daeth 22 o gerddwyr, rhai ar eu taith gyntaf gyda'r clwb, i gerdded heibio Llyn Bochlwyd, ymlaen i flaen y cwm ac allan i Fwlch y Ddwy Glyder cyn croesi Castell y Gwynt i gopa Glyder Fach, nol i Glyder Fawr ac i lawr y Gribin. Gweld fawr neb rhwng y maes parcio a'r Bwlch ond dwsinau lawer wedyn! Dechrau a diwedd y dydd mewn cwmwl ond haul braf ar y copaon gan edrych i lawr ar fôr o gymylau. Gobeithio fod Meinir a Geraint, Ray, Richard a Sue, Nic, Gwen, Marian, Arwel, Gaynor a Gareth, Prys, John, Eifion (Llanrwst), Bert, Elisabeth, Iona, Eifion (Llanfair-pwll), Ffion a Huw wedi mwyhau eu hunain!

Adroddiad gan Gareth ac Eryl

Lluniau gan Arwel ar Fflickr

Gobeithio nad oedd craig y gwyliwr ddim wedi sigo!