Dringo - Craig Tafarn y Castell 22 Mai
DRINGO yng nghosta del Hen Golwyn
Pawb wedi mwynhau dringo yn yr haul poeth yn cynnwys Alan, Arwel, Janet, Cliff, Rhodri, Marion a Siân( yn y prynhawn). Janet yn dangos y ffordd yng Nghraig Tafarn y Castell wrth ddringo 6a. Ar ôl treulio rhan fwyaf o'r dydd yng Nghraig Tafarn y Castell symudom i lawr i Benmaen Rhos i chwilio am gysgod o'r haul. Yno dangosodd Siân y grefft o ddringo trwy dyfiant (route ddim yn y guidebook newydd!).
Ar ôl dringo caled yn yr haul yn anffodus bu rhaid gadael y Llew Coch ar ôl un lager shandy i yrru adref!
Hwyl a diolch i bawb.
Adroddiad gan Alan Jones
Lluniau gan Arwel ar Fflickr