Ro Wen a Ro Lwyd, Penmachno 23 Ionawr
Roedd tri ar ddeg wedi ymgynyll i gychwyn o’r maes parcio. Doedd Siân a Ffion ddim ar gael i arwain oherwydd bod Sian yn India a Ffion wedi ei hanafu'n sgio. Bu'n rhaid i’r "hen gojars" arwain yn eu lle. Roedd yn ddiwrnod gweddol braf gydag ond ychydig o law ar y cychwyn.
Ar ôl gadael y ffordd goedwigaeth, daeth yr haul i’r golwg, felly penderfynwyd ymateb i gais John Arthur am baned ar waelod Ro Lwyd. Dringom dipyn i’r copa a chroesi ar draws i’r ysgwydd oedd yn ymestyn i Ro Wen gyda golygfeydd tuag at Eryri: Siabod, Yr Aran a’r Wyddfa – a oedd yn y cymylau. I’r cyfeiriad arall gwelwyd y Moelwyn, a’r Arenig. Ar ôl cyrraedd Ro Wen a chael cinio yn yr haul sylweddolwyd bod aelod arall or clwb wedi ymuno a "Chlwb y Cwpan China" – sydd yn gwneud y rhif yn ddau, bellach.
Cychwynwyd oddi yno i lawr heibio llyn Tomla i’r ffordd goedwigaeth tu ôl i Llechwedd Hafod a gwelwyd golygfa lawr i ran o Gwm Penmachno. Wedyn cymerywyd llwybr drwy’r coed heibio Tyddyn Du, drwy Dolgochyn ac i lawr tuag at Cwm Glasgwm ac yna’n ôl ir Ty Uchaf (Yr Eagles) am lymad.
Taith hamddenol gyda cwmni da.
Adroddiad gan Gareth Wyn
Lluniau, ar ran y cojars gan Gareth Wyn ar Fflickr