HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bryniau Clwyd 23 Hydref


Tri aelod ar ddeg a ddaeth i fwynhau gogoniant hydrefol Dyffryn Clwyd: Sw, Gwilym, Bert, Iona, Elizabeth, John Arthur, Meinir, Geraint, Iolo, Mike, Arwel, Marion, Richard a Sali Mali'r ci.
Cychwyn o ganol tref Rhuthun, ar hyd ffordd Graigfechan am tua milltir a hanner cyn troi a cherdded heibio Fferm Bathafarn, trwy Goed Plas-y-nant cyn croesi'r ffordd fawr ger bwyty'r Clwyd Gate i ymuno â llwybr Clawdd Offa.

Cerdded ar hyd odrau Moel Eithinen cyn esgyn ochr serth, ddeheuol Moel Fenlli. Erbyn hyn, roedd hi'n ddigon oer a gwlyb i hyd yn oed John Arthur wisgo'i gôt! Roedd golygfeydd gwych o gopa Moel Fenlli lle mae olion caer Oes yr Haearn sylweddol. Disgyn i Fwlch Pen Barras wedyn am hoe a chinio.

Anelu am gopa Moel Fammau trwy Goedwig Clwyd a dychwelyd i faes parcio Pen Barras ar hyd y prif lwybr. Taith hamdenol yn ôl i Rhuthun ar hyd llwybrau cyhoeddus.
Yn ôl teclyn mesur pellter Iona, taith o 13.5 milltir.

Taith dda a chwmni difyr.

Adroddiad gan Richard Roberts

Lluniau gan Richard Roberts ar Fflickr