HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Garn ag Elidir Fawr 27 Chwefror


16 yn dangos diddordeb o flaen llaw i ymuno a`r daith a 6 yn cael eu cynghori yn erbyn dod heb gramponau. Felly 10 ohonom yn troi allan sef:- Cemlyn, Morfudd, Ann Bysouth, Mary Lloyd, Anet, Gwyn Chwilog, Gaynor, Eifion, Ken Penmachno a Gwilym. Sylwadau y tywydd yn weddol sych felly cychwyn o Benllyn Ogwen trwy Tin Pan Alley ac ymlaen i Lyn Idwal a chadw i`r gorllewin o`r llyn ac i fyny am y Twll Du. Yr eira yn drwchus ar y llethrau uchaf ac yn cuddiad y llwybyr ar adegau, yr arweinydd yn falch o help gan Gwyn a Cem i ganolbwyntio lleoliad cywir y llwybr ar adegau!!! Cael paned wedi cyrraedd Llyn y Cwn, ar ol i Ken sefydlu llecyn addas i'n cysgodi o`r gwynt main! Cychwyn wedyn mewn niwl trwm i gopa rhewllyd Y Garn a penderfynnodd rhai o`r criw i osod eu cramponau i gael gostwng yn ddiogel y gwyneb gogleddol i lawr o`r copa am gyfeiriad Bwlch y Brecan.

Cael cinio yn y Bwlch ac yng nghysgod Y Foel Goch. Penderfynnu peidio cynnwys Elidir Fawr yn y daith yma – ei gadw nes cawn ddiwrnod braf heb eira a niwl efalla! Ar ôl cinio aethom tros y gamfa a gostwng yn serth – dim llawer o eira – i lawr Cwm Bual ac ymuno a`r llwybyr main uwchben Nant Ffrancon. Wedi gostwng o`r niwl cawsom olygfeydd bendigedig o Nant Ffrancon, Dyffryn Ogwen ac i lawr am Chwarel Bethesda a godre`r Carneddau. Dilyn y llwybyr mewn cyfeiriad deheuol ac o dan "The Mushroom Garden" a chael golygfa hardd o Lyn Idwal a llinell o niwl yn cuddiao copaon Tryfan a`r Glyderau.

Gostwng i Lyn Idwal ac ymlaen i Ben Llyn Ogwen a`r maes parcio.

Diolch i bawb am eich cymorth ac hefyd i Morfudd a Cemlyn am ei gwaith gyda`r map a cwmpawd.

Adroddiad gan Gwilym.

Lluniau gan Gwilym a Gwyn (Chwilog) ar Fflickr