HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cinio Blynyddol 13 Tachwedd


O edrych yn ol drwy'r wefan am adroddiadau Cyfarfodydd Blynyddol y gorffennol dim ond cannoedd o luniau Pennant sydd i'w gweld! Felly dyma chydig o eiriau … criw teilwng wedi ymgynnull ar noson fudur yn yr Oakeley Arms, Maentwrog.

Rhan swyddogol rhwng chwech a saith, noson pan oedd Morfudd yn ymddeol o'i chyfnod fel Cadeirydd, gyda blwyddyn anodd iddi hi a'r clwb yn dilyn colli Llew gwta chwe mis yn ol yng Nghwm Cneifion. Yn dilyn teyrnged iddo ganddi cafwyd munud o ddistawrwydd fel arwydd o barch i gofio amdano. Diolch iddi am ei holl waith a'i brwdfrydedd.

Arwel Roberts, yr Is Gadeirydd a gymerodd yr awennau a diolchodd yntau ar ran pawb am wasanaeth clodwiw Morfudd a chyflwynodd glamp o dusw o flodau (llun uchod) a sws iddi!

Roedd Clive yntau yn ymddeol o'i swydd fel Ysgrifennydd Gweithredol ac Aelodaeth wedi cyfnod o saith mlynedd. Diolch iddo yntau am ei wasanaeth trefnus, trylwyr a'i frwdfrydedd. iolo Roberts, Caernarfon fydd yn cymryd ei le. Cafwyd crynodeb o weithgareddau'r flwyddyn gan yr Ysgrifennydd Gweithgareddau ac arddangosiad gan Anita a Gwyn Roberts ar sut i ddefnyddio un o'r pedwar bag mochel a brynwyd at ddefnydd y Clwb. Bu Iolo ap Gwynn yn son am wefan y clwb a'i freuddwyd o ehangu'r Mynyddiadur, a fyddai o'i datblygu yn adnodd gwerthfawr ar gyfer y dyfodol; mae'n llwyr ddibynnol ar gyfraniadau gennych chi yr aelodau, felly beth amdani? Y trydydd a'r olaf yn ymddeol eleni oedd John Arthur – yntau ddim yn siwr sawl blwyddyn o wasanaeth a roddodd fel trysorydd – diolch iddo am ei waith. Bydd Gareth Roberts, Cefncoed yn cymryd yr awennau ganddo maes o law.

Cyflwynwyd llun gan Rob Piercy i John Arthur a photel o Benderyn i Clive fel gwerthfawrogiad o'u gwasanaeth.

Diolch i Alwen a Ceri am drefnu'r noson ac am arwain y daith ar y Moelwyn yn ystod y dydd.

Pryd bwyd – bwffe cynnes – i ddilyn.

Ein gwr gwadd oedd Alun Hughes, Llanberis sy'n enwog ledled y byd am ei ffilmiau antur. Cyflwynwyd ef gan Maldwyn (cyn bartner dringo ido am gyfnod ym mhellafion y ganrif ddwetha) a diolchodd i Morfudd am ddwyn perswad arno i ddod atom.
Cafwyd clipiau dringo o'r wythdegau ymlaen gyda dringwyr fel Jim Jewel a Jerry Moffat yn arddangos eu doniau ym Mhrydain ac ar y cyfandir; canwio eithafol; hanes ei gyfresi hefo Pws ac i goroni'r cyfan clipiau o Stone Monkey (Johnny Dawes yn dringo yn Nhwll Mawr, Dinorwig) a Birdman of the Karakoram gyda John Silvester ac Alun yn hedfan 7,000 metr uwch gopaon anhygoel Himalaya Pakistan, ffilm a enillodd wobr arall iddo.
Gwefreiddiol!

Diolchwyd iddo gan Arwel, y Cadeirydd newydd.

Noson dda!

Adroddiad gan Maldwyn

Diolch (!) i Gerallt Pennant am dynnu'r lluniau - a lwyddodd unrhyw un i ddianc? (danfoner pob gohebiaeth ato ef!) - gwelir nhw ar Fflickr