Yr Wyddfa 1 Ionawr
Mi ddechreuodd pethau hefo ebost gan Shane yn dweud ei fod wedi brifo ei gefn, ac yn gofyn a fyddwn i a'r criw Penmachno yn fodlon trefnu'r daith dydd Calan yn ei le. Cytuno, yn llawn hyder o gael tywydd braf, oer, gaeafol.
Ionawr y cyntaf yn gwawrio yn oer, yn wlyb ac hefo cwmwl at y llawr. Yr her cyntaf oedd cael hyd i faes parcio Pen y pass yn y niwl! Gobeithio na fyddai neb yn ddigon gwirion i droi allan mewn fath dywydd ac mai nol adra fyddai'r hanes, ond....... wyth o rai gwirion allan, a rhaid oedd mynd. Un droed o flaen y llall oedd hi i fyny llwybr y Pyg i bump ohonom ni. Chydig o hen eira ar y zig zags, dim cweit yn ddigon caled i gramponau. Y tri arall yn gwneud eu ffordd dros y Grib (welson nhw neb arall yno - rhyfedd te?). Chwilio am gysgod am ginio sydyn ar y copa, cyn bomio i lawr Llwybr y Mwynwyr nol i'r ceir erbyn tua 2pm - a phawb yn wlyb socian.
Uchafbwynt y diwrnod? Yn unfrydol, y tanllwyth o dân a'r Glühwein yn nhafarn Pen y Gwryd wedyn!!
Adrodiad Gwyn Roberts
Dim lluniau (sgwn i pam?)