HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Roches 2 Gorffennaf

Mentrodd bedwair o Glwb Mynydda a'r daith i'r Roches, Marion, Arwel,Jer a minnau. Y tro cyntaf,os dwi'n cofio'n iawn i ni gael taith yn yr ardal hyfryd hon ac yr oedd yn benwythnos hynod o lwyddiannus. Dwy awr yn y car i Leek i'r gwersyllfa, Leek Edge. Lle i gampio arbennig o dda ar gyrion y dref Leek. Mae'n lle dawel a chyforddus ac ond tafliad carreg o'r ardal hyfryd Y Roches. Mae'r Roches yn ardal unigol dros ben, hefo creigiau wedi cael ei cherfio dros y ganrifoedd i greu dringfeydd ffantastic o bob safon a phob siap: rhwyfath o baradwys i ddringwyr. Rhaid ddweud hefyd mai Roches yn lle anfarwol ar gyfer cerddwyr hefyd. Be'am deithio yna yn y dyfodol?!

Dros y benwythnos rydym wedi dringo llwyth o ddringfeydd o bob safon yn gynwys Slab and Arete, Maude's Garden, Pedestal Crack, Inverted Staircase, Right Route, Pinnacle Slab Rooster, Chicken Run ac ati. Ond Y Gorau (!!?) oedd Karabiner Chimney.........disgrifiad yn y llyfr oedd "a mini classic".......Ond HVD yr oedd yn andros o "struggle" i bawb!! Mi ddingodd yr holl dim i fyny a phawb yn cael rhyddhad ofnadwy i ddianc o grafangau'r simnai. Dyma rwyfath o Lockwoods Chimney,ond mwy mwy o heriol o lawer!. Ah am hwyl!! Chware teg i Marion, prin oedd y geiriau rhegi yn nyfnder y simnae!!

Diolch o galon i'r holl dim dewr am eu gefnogaeth dros y benwythnos ac yn arbennig am yr hwyl. Rhaid dweud mi gollodd nifer o ddringwyr eraill, sy wedi methu dwad, hynod o amser bleserus a mwy na hynny, lot lot o hwyl.

Adroddiad gan Cliff Matthews

Lluniau gan Cliff Matthews ar Flickr