HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gwynfynydd a Chraig y Penmaen 5 Mawrth


Ar ôl wythnos glir a heulog, gwawriodd Sadwrn y 5ed yn gymylog a llwyd. Er hyn, daeth 15 aelod ynghyd ym Mronaber i gael cip olwg ar gornel anghyfarwydd o Wynedd. Cerdded lawr Cwm Cain, i Waith Aur Gwynfynydd a chael paned mewn steil. ( gweler y lluniau) Yna ymlaen i Raeadr Mawddach a Phistyll Cain. Dringo wedyn trwy ran gogleddol Coed y Brenin ar hyd Sarn Helen, yr hen ffordd Rufeinig i fyny tuag at Graig y Penmaen. Y cymylau yn eitha isel erbyn hyn ond pawb am wneud y "grib ogleddol" (AD+) i'r copa. Lawr yn ôl ac i Rhiw Goch am riffreshments.

Y criw: Myfyr, Dafydd Rhys, Nia Wyn, Clive, Rhiannon, Gwyn Chwilog, Arwyn, Gaenor, Jean, Morfudd, Ann, Hefin, Jeremy, Iona a Gwilym.

Braf oedd gweld ambell wyneb o'r gorffennol ar y daith. Croeso'n ôl.

Adrodiad gan Myfyr (yr arweinydd)

lluniau gan Myfyr ar fflickr