HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa 8 Ionawr


Penwythnos Rhyd-ddu

Cychwynnodd criw o ddeg o Ryd-ddu tan arweiniad Morfudd a Cemlyn - Bruce, Rhodri, Dai, Gwyn Chwilog, Richard Mitch, Cliff, Elen, Gwilym J, John Parri ac Anet. Dilyn y llwybr drwy chwarel Glanrafon hyd at lwybr y Snowdon Ranger. Paned sydyn cyn cychwyn rhan serth y llethr a gresynu bod y cwmwl yn isel ar y copaon. Wrth ddringo aeth y llwybr yn fwyfwy rhewllyd a llithrig a’r diwedd fu aros i wisgo cramponau. Ond wrth i ni godi cododd y cwmwl hefyd, ac erbyn cyrraedd y copa roedd wedi clirio. Prin oedd yr eira ond hynny oedd yna yn galed iawn. Tra’n cael panad arall ar y copa cyrhaeddodd Rhys, Guto, Marc a Dewi o gyfeiriad Bwlch y Saethau a chyd-gerddom tros Fwlch Main yn ôl tua Rhyd-ddu. Roedd angen tipyn o ofal ar y llwybr tan y copa deheuol a chyrhaeddom yn ôl yn y ganolfan cyn i’r haul fachlud. Diolch i Morfudd a Cemlyn am ddiwrnod difyr.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Anet ar Fflickr