HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Sesiwn Hyfforddi 8 Ionawr


Penwythnos Rhyd-ddu

Gyda'r eira'n brysur ddiflannu nid hawdd oedd cael hyd i ddigon o eira i ymarfer sgila mynydda gaeaf ond yn ffodus roedd digon ar ôl ar lechweddau'r Aran. Cafwyd diwrnod diddorol yn ymarfer cicio a thorri stepiau, dysgu sut i arafu codwm hefo picell ac hefyd cerdded i fyny ac i lawr llechwedd serth hefo cramponau. Diweddwyd y diwrnod drwy gerdded i gopa'r Aran i fwynhau'r golygfeydd gaeafol.

Diolch i Gareth,Richard, Ray, Meinir, Geraint, Sue, Raymond, Rhianon a Huw Myrddyn am ei cwmni ac hefyd diolch i Anita am gyd arwain y diwrnod.

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Arwel ar Fflickr