Y Cnicht 9 Mawrth
Cychwyn o faes parcio Croesor, cael hanes sydyn am Moses Kellow gan John Parry'r arweinydd, yna dilyn hen ffordd y porthmyn cyn troi oddi arni am y Cnicht. Dringo'n raddol, er gwaetha'r gwynt cryf. Gweld rhywun yn y pellter, a Ray'n dal i fyny efo ni - wedi colli'r bws cyntaf o Fethesda, wedi dal un arall, newid bws sawl gwaith, cyrraedd Croesor, a'n dal i fyny erbyn i ni ddringo hanner ffordd i fyny'r Cnicht! Cyrraedd y copa, gwyntog iawn. Ymlaen tua'r gogledd, a throi oddi ar y grib cyn anelu'n ôl i gyfeiriad Cwm Croesor. Heibio'r hen argae ac i lawr am Gwm Croesor ar hyd hen lwybrau'r chwarel. Yn ôl i Groesor, y caffi wedi cau, felly lawr i gaffi Llanfrothen, a chael paned a chrempog ddiwrnod yn hwyr (mi oedd yn ddiwrnod crempog ddoe!). Diolch i John ac i bawb arall am eu cwmni.
Adroddiad gan Haf Meredydd
Lluniau gan Haf Meredydd ar Fflickr