HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dyffryn Lledr a Thŷ Mawr Wybrnant 9 Tachwedd


Mi ddechreuodd pethau hefo ebost gan Shane yn dweud ei fod wedi brifo ei gefn, ac yn gofyn a fyddwn i a'r criw Penmachno yn fodlon trefnu'r daith dydd Calan yn ei le. Cytuno, yn llawn hyder o gael tywydd braf, oer, gaeafol.

Ionawr y cyntaf yn gwawrio yn oer, yn wlyb ac hefo cwmwl at y llawr. Yr her cyntaf oedd cael hyd i faes parcio Pen y pass yn y niwl! Gobeithio na fyddai neb yn ddigon gwirion i droi allan mewn fath dywydd ac mai nol adra fyddai'r hanes, ond....... wyth o rai gwirion allan, a rhaid oedd mynd. Un droed o flaen y llall oedd hi i fyny llwybr y Pyg i bump ohonom ni. Chydig o hen eira ar y zig zags, dim cweit yn ddigon caled i gramponau. Y tri arall yn gwneud eu ffordd dros y Grib (welson nhw neb arall yno - rhyfedd te?). Chwilio am gysgod am ginio sydyn ar y copa, cyn bomio i lawr Llwybr y Mwynwyr nol i'r ceir erbyn tua 2pm - a Pymtheg ohonom yn troi allan i gyfarfod yn Nolwyddelan ar fore cymylog a sych ond addo glaw at y prynhawn. Felly cychwyn heb oedi ar hyd y ffordd goedwigaeth uwchben yr afon Lledr a throi lawr i'r llwybr yn dilyn yr afon ym Mhont y Pant. Cael panad ar lan pwll yn yr afon a chael ein diddori gan yr eog yn neidio allan o'r dŵr. Ymlaen ar hyd llwybr y pysgotwyr a thrwy goedwig hydrefol a phrydferth a chael golwg ar y llwybr peryglus yn hongian yr ochr arall yr afon.

Cyrraedd gwersyll Tanaeldroch a throi o dan y rheilffordd ac anelu drwy'r goedwig i Tŷ Mawr Wybrnant. Mymryn o siom bod y tŷ wedi cau ond er hynny penderfynu, ar ôl chwilio am ofalwr y Tŷ Mawr, i gael cinio yn yr ardd. Wedi i ni neud ein hunan yn gartrefol dyma'r glaw trwm yn cyrraedd a diolch am y cwt coed tân i ni gael cysgodi ynddo am ginio.

Ymhen amser cyrhaeddodd y gofalwr ac fe agorwyd y toiledau a'r Amgueddfa er mwyn ein difyrru a gwerthfawrogi ei garedigrwydd i gael parhau i gysgodi o'r glaw.

Ond roedd rhaid mentro allan felly cerdded i fyny'n raddol i wlybaniaeth godre agored Foel Felen. Y niwl yn ein rhwystro rhag gweld y golygfeydd o Foel Siabod ac eraill yn yr ardal a phawb yn gwylio lle i droedio drwy'r tir corslyd. Ar ôl cyrraedd y goedwig cawsom gysgodi o'r glaw a dilyn y llwybr yn ôl i Ddolwyddelan.

Diolch i Rheinallt, Salmon, Anet, Carys, Haf, John Port, Arfon, Arwyn, Gwen Aaron, Beti, Liz, Iona, John Arthur, a Meira am eu cwmpeini.

Adroddiad gan Gwilym.

Lluniau eraill gan Gwilym a Haf ar Flickr