Porthmadog i Gricieth 11 Mehefin
Un o deithiau er cof am Llew ap Gwent
Cychwyn o Port ar fore eithriadol o braf - awyr las a chymylau trawiadol! Cerdded trwy harbwr Port i Borth y Gest, ar hyd glannau'r aber i Fae Samson ac i draeth y Greigddu heibio'r hen odyn galch. Cerdded yma ar hyd y traeth, a chymaint o drai fel ein bod yn gallu cerdded o amgylch trwyn y Greigddu'n hytrach na gorfod llafurio i'w dringo i'r ochr draw. Cael golwg ar yr ogofau o dan y Greigddu a'r nant o ddŵr croyw sy'n byrlymu i'r traeth o'i chrombil, cyn cerdded ymlaen am Gricieth, ac adlewyrchiad yr awyr las a'r cymylau yn hyfryd yn y traeth gwlyb. Eirlys ac Iona'n mentro'n ddi-sgidiau nes dod at gaffi Morannedd. Ar ôl paned yma, ymlaen ar hyd y prom, heibio siop Cadwaladr a Chastell Cricieth, ar hyd y Marine, ac ymlaen am geg yr afon Dwyfor.
Iolyn ac Eirlys - tw bi continiwd ....!
Adroddiad gan Haf
Lluniau gan Haf ar Fflickr