HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llanbedrog i Aberdaron 11 Mehefin


Un o deithiau er cof am Llew ap Gwent

Un o deithiau noddedig i godi arian i gronfa Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd 2012

Ymunodd tros ddeg ar hugain â'r daith o Lanbedrog i Aberdaron, y nifer yn amrywio wrth i rai ymuno ac eraill ymadael yma ac acw. Braf iawn oedd cael cwmni Owain, Dyfrig a Mari, a Sian ac Emrys ar daith mor arbennig. Bu'r tywydd yn berffaith i gerdded, haul, awyr las ac awel ysgafn – i'r dim i droedio traethau Ty'n Tywyn, Porth Fawr a Phorth Neigwl ac ymlwybro tros Y Rhiw i Aberdaron. Roedd y golygfeydd agos o'r môr glas a'r ynysoedd yn drawiadol, heb sôn am fynyddoedd Eryri a Meirion yn y pellter a'r arfordir i lawr cyn belled â Sir Benfro a'r Preseli. Wedi rhyw wyth awr o gerdded (yn cynnwys saib neu ddau) roedd diferyn i iro'r llwnc ym mhen draw'r daith yn dderbyniol iawn.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Anet ar Fflickr

Nodyn gan Owain (mab Llew)
Dim ond nodyn byr i ddweud ein bod wedi mwynhau taith arbennig o Lanbedrog i Aberdaron o dan arweinad Anet a Rhiannon ddydd Sadwrn. Roedd y golygfeydd yn fendigedig a'r tywydd yn ffafriol iawn hefyd wrth gwrs. Mi fyddai Dad yn sicr wedi bod yn ei elfen a hoffwn ar ran y teulu ddiolch i chi a'r Clwb am drefnu'r naw taith yn goffad iddo.