HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Aberdaron i Nefyn 4 Mehefin


Un o deithiau er cof am Llew ap Gwent

Un o deithiau noddedig i godi arian i gronfa Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd 2012

Cychwynnodd pedwar ohonom o faes parcio Aberdaron (Anet, Gwyn, Meri a minnau) am 9.45am. Roedd wedi bod yn bwrw yn drwm dros nos a doedd y rhagolygon tywydd ddim yn ffafriol, ond wrth ryw lwc roedd y glaw wedi pasio erbyn i ni gychwyn ac fe gawsom dywydd braf trwy'r dydd. Roedd rhan gyntaf y daith ar hyd lonydd gwledig nes cyrraedd Anelog ac ymuno â Llwybr Arfordir Llŷn; gweld Garn Fadrun yn y pellter pell a gwybod bod Nefyn yr ochr draw iddi! Dilyn y llwybr i Borth Oer lle y cawsom baned yn eistedd allan yng Nghaffi'r Ymddiriedolaeth ar y traeth. Yna roedd yn rhaid gadael gallt y môr gan nad oes mynediad i'r rhan nesaf o'r arfordir ac roeddem yn ôl yn troedio lonydd am ychydig nes cyrraedd Porth Widlin. Oddi yma roeddem ar lwybr yr arfordir yr holl ffordd i Nefyn. Cinio uwchben Traeth Benllech, y pedwar ohonom yn eistedd ar fainc yn edrych i lawr ar y môr.

Wrth Draeth Towyn ymunodd Gwenan o Dudweiliog â ni am ychydig (cael seibiant o brynhawn o arddio). Stopio am baned olaf a mwynhau'r haul mewn bae bach cysgodol cyn cyrraedd Penrhyn Cwmistir. Parhau ar y rhan olaf o'r daith,a Garn Fadryn y tu cefn i ni o'r diwedd, drwy ganol caeau Clwb Golff Nefyn cyn dod i mewn i bentref Nefyn ac yn ôl at y ceir erbyn 6.40, a phawb yn falch iawn o'u gweld ar ôl diwrnod hir.

Taith hynod o ddifyr ar ddiwrnod braf. Gwelsom lu o adar y môr gan gynnwys sawl hugan wen yn deifio i'r môr, mulfrain, brain coesgoch a morloi. Diolch i Anet, Gwyn a Meri am eu cwmni, a chan fod y daith yma wedi digwydd ychydig cyn gweddill y teithiau ar y 11eg o Fehefin, roedd Anet, Meri a minnau ar y diwrnod hwnnw ar y daith o Lanbedrog i Aberdaron sy'n golygu ein bod mewn cyfnod byr wedi troedio rhan sylweddol o arfordir Llŷn. Wel dyna i chi fraint!

adroddiad gan Iolo
(Llun gan Anet)