Abergwyngregyn i Ogwen 11 Mehefin
Un o deithiau er cof am Llew ap Gwent
Un o deithiau noddedig i godi arian i gronfa Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd 2012
Arweinyddion George Jones a Maldwyn Roberts.
Daeth saith o fynyddwyr ar y daith hon o Aber: Rhys, Marian, Anita ( a Mo Jo'r ci), Arwel, Gwen, a'r arweinyddion George a Maldwyn.
Ar ôl mynd heibio'r rhaeadr, oedd yn syndod o lawn, cyrhaeddodd y fintai'r copa cyntaf, Llwytmor Bach; yna Llwytmor, Foel Fras, Garnedd Uchaf (Garnedd Gwenllïan), Foel Grach, Carnedd Llywelyn, Carnedd Dafydd. Aeth hanner y teithwyr yn eu blaenau i Fethesda o ben Carnedd Dafydd, a'r gweddill yn mynd ymlaen i Ben yr Oleddf Wen ac i Ddyffryn Ogwen gan ddisgyn i'r ffordd yn ymyl Glan Dena.
Difyr oedd cyfarfod â ( neu geisio osgoi), rhai o'r 66 o ymgeiswyr egnïol oedd yn cymryd rhan mewn Ras Fynydd. Yn nes at Ddyffryn Ogwen, roedd rhai cerddwyr wrthi yn her Y Pymtheg Copa ar Ddeg, y syndod oedd bod ganddyn nhw ddigon o egni i gynnal sgwrs ar y cymal olaf hwn o'u taith.
Roedd y tywydd mor amrywiol â'r daith - yn genllysg, glaw mân , glaw trwm, gwynt main, a haul cynnes at y diwedd. Doedd dim pwysau i ruthro - taith hamddenol, braf a gymerodd tuag wyth awr, gan ddychwelyd mewn hen bryd i Rhys gymryd rhan mewn cyngerdd Côr y Penrhyn ( gobeithio) .
Diolch yn fawr i'r arweinyddion am y trefniadau gwych.