Moel Tryfan a’r Cilgwyn 12 Ionawr
Roedd y rhagolygon at ddydd Mercher yn go ddrwg , gwynt, glaw trwm a llifogydd. Er hynny roedd 13 o ffyddloniaid wedi ymgasglu yn Nhal y Sarn erbyn deg – Gwen Aa, Gwen R, Rhian D, John W, John P, Ray, Arwyn, Gwyn W, Arfon, Twm Glyn, Huw Myrddin, Gwilym J ac Anet. Roedd wedi dechrau bwrw’n ysgafn wrth i ni gychwyn drwy chwarel Dorothea tua Nantlle ac i fyny heibio chwarel Pen y Orsedd i gyrion Y Fron. Panad, a hithau’n dal i lawio, cyn cerdded drwy chwarel Cors y Bryniau a dringo Moel Tryfan. Darllen am ymweliad Darwin yn 1842 ar y plac ar y copa. Yna ymlaen drwy’r Fron ac i gopa’r Cilgwyn cyn dilyn hen lwybrau yn ôl tua’r man cychwyn. Dal i fwrw pan gyrhaeddom yn ôl yn Nhal y Sarn, braidd yn wlyb, bedair awr a hanner yn ddiweddarach.
Adroddiad gan Anet
Lluniau gan Anet ar Fflickr