HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Carneddau 12 Tachwedd


Cafwyd diwrnod da ar y Carneddau yng nghwmni difyr 13 o aelodau'r clwb sef Arwel, Gwyn Llanrwst, Bois Penmachno- Eryl.Gareth a Gareth, Richard, Gwen, Iolo, Iolyn, Eirlys, Gwilym ac hogan ifanc o'r enw Sian o Borthmadog. Aethom dros Pen yr Ole Wen, Carnedd Dafydd a Llywelyn cyn sgramblo lawr Craig yr Ysfa ac i fyny Pen Yr Helgi Du. Penderfynodd 3 o'r criw fwrw ymlaen dros Pen Llithrig y Wrach i'r Bryn Tyrch am beint cyn i'r chauffeur ( Eryl ) eu cyfarfod wedyn!
Gwnaeth gweddill o'r y criw ymlwybro yn ôl i Glan Dena cyn ymgynnull yn y Bryn Tyrch ble brynodd Iolyn y mins pei mwyaf yn y byd er mwyn i Eirlys gael mwy o ymarfer dringo/sgramblo!
Diolch i bawb am ddod.

Arwain ac adroddiad gan Marion

Lluniau gan Arwel at Flickr