HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Foel Goch 13 Ebrill


Naw o ddoethion yn cyfarfod yng Nghefnddwysarn, wedi anwybyddu arolygon tywydd Radio Cymru!. Iolyn Jones, John Parry Port, Gareth Griffiths Bala, Nerys Horan Llanrwst, Dylan G, Llion, Paul, Joe o'r Waunfawr a John Williams.

Trwy pentre Tai Cymer, i fyny'r trac tros Bryn Bras, i Garnedd Benjamin a chinio allan o'r gwynt oer ar Ben Cerrig Serth. Golygfeydd clir ond tywyll i'r gogledd a'r dwyrain – Moel Fammau a Bryniau Llantysilio – ond yn sych.

Yn ôl i'r gwynt ar hyd terfyn Llangwm, Llandderfel a Llanfor, dros Yr Orddu, Foel Goch, Garnedd Fawr ac i lawr i'r trac i gyfeiriad Llwyn Iolyn a'r ceir – cawod ysgafn ar y diwedd.