Cwm Brwynog o Rhyd Ddu 13 Gorffennaf
Diwrnod heulog braf, dwsin ohonom ar y daith sef Iona, Rhiannon H, Rhiannon O, Gwen J, Gwen R, Haf, John W, Gwyn W, Arwyn, Twm Roberts, Alun a Bert. Trên o Waunfawr i'r "Snowdon Ranger" via Rhyd Ddu (gweithiwch honna allan!), fyny i fwlch Cwm Brwynog, lawr y cwm lle bu cymuned go helaeth ar un adeg, sylwi ar yr hen adfeilion, a heibio adfeilion Capel Hebron lle rhoddodd Alun dipyn o wybodaeth inni. Ymddiheuriad oddi wrth yr arweinydd i'r criw oll am yr oediad cyn cael cinio, eu tafodau yn hongian allan, a'u boliau'n "rwmblo", yn enwedig JW!
Aros i fwyta ger Pen Ceunant Uchaf, cwt dringo'n perthyn i Glwb Mynydda Caer; 'mlaen wedyn heibio Cae Newydd, Maenllwyd a dros Fwlch y Groes yn ôl i Waunfawr a pheint wedi ei haeddu. Diolch i bawb oedd yn bresennol.
Adroddiad gan Bert
Lluniau gan Haf ar Fflickr