HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhoscolyn, llwybr arfordir 14 Medi


Ar ddiwrnod braf o haf bach, daeth 20 ohonom ni, yn cynnwys Kamal o Nepal, ynghyd ym maes parcio traeth Trearddur. Roedd y bws i Bontrhydybont yn orlawn! Doedd yr arweinydd ddim wedi sylweddoli pa mor uchel oedd y llanw, ond ddaru ni ddilyn y llwybr, y rhan fwyaf ohoni'n cadw ein traed yn sych.

Ymlaen drwy'r coed a chael cinio answyddogol cyntaf ar ddarn o'r llwybr pren a gafodd ei adeiladu yn ddiweddar gan yr Arwyr Arian (aelodau o grŵp cerddwyr Ynys Môn). Wedyn ymlaen at y môr, a chinio swyddogol ar Draeth Llydan yn yr haul efo'r awyrlu'n hedfan yn swnllyd uwch ein pennau. Wedyn ar hyd yr arfordir i Roscolyn, golygfeydd bendigedig o Ben Llŷn ac Enlli yn yr haul, ac Eryri o dan y cymylau.

Yn Rhoscolyn, roedd 'na ddewis o gerdded ar hyd yr arfordir, neu droi at dafarn yr Eryr Wen (y 'White Eagle', lle Seisnigaidd iawn, ond cwrw da, a bwyd da, yn ôl y sôn). Penderfynu mynd at y dafarn ddaru ni! Yn ôl heibio'r eglwys at yr arfordir, a'r 'bwa gwyn'. Ychydig yn bellach ymlaen, roedd 'na garreg fedd i Tyger, ci oedd wedi arwain criw yn saff i'r lan o long oedd wedi taro'r creigiau, ond a oedd wedi marw'n syth wedyn.

O'r diwedd ddaru ni ddŵad at garafanau a byngalos Trearddur. Roedd pawb yn hapus ar ôl diwrnod braf o gerdded, heblaw am un dyn a ddarganfyddodd docyn ar ei gar.

Adroddiad gan Gwen Richards

Lluniau gan Gwen Richards a Haf Meredydd ar Fflickr