Ardal Nantmor 14 Rhagfyr
Daeth 18 ohonom ynghyd ger gwesty Tan yr Onnen, Beddgelert. Roedd y tywydd yn braf gydol y dydd ac aethom i lawr llwybr y pysgotwyr a thrwy’r Gymwynas ger yr afon Glaslyn. Cawsom sbel ger Penygroes, cartref Ap Glaslyn. Difyr oedd sylwi fod dwy yn y cwmni efo paentiad o’r bwthyn hwn sef Morfudd a Haf, un wedi ei beintio gan Cemlyn a’r llall gan Rob Piercy.
Cawsom ginio yn Nantmor ac wedyn ymlwybro tuag at Carneddi. Cafwyd sgwrs gan yr arweinydd am Garneddog a dangoswyd y ffotograff a dynnwyd ym 1945 gan Geoff Charles. Cafwyd hanes Ruth Ruck a Paul Orkney Work fu'n byw yno hefyd. Aethom heibio Capel Anwes a Thy Mawr, cyn dychwelyd heibio Pont Aberglaslyn. Cafwyd te yn y Bistro ym Meddgelert.
Adroddiad John Parry
Lluniau gan Haf ar Fflickr